Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Hyfforddai Rheoli Prosiectau – bydd y swydd hon yn addas i ymgeisydd ar lefel sy’n cyfateb i radd sydd eisiau datblygu sgiliau rheoli prosiectau mewn amgylchedd treftadaeth.  Bydd yn darparu profiad uniongyrchol o weithio ochr yn ochr â rheolwr prosiect ar gam cyflawni prosiect mawr a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd y sgiliau a enillir yn berthnasol ar draws y sector treftadaeth. Bydd yn gweithio gyda Rheolwr y Prosiect Treftadaeth.

Yr hyn rydym yn chwilio amdano – Sgiliau trefnu cryf, y gallu i gynllunio ac ymchwilio, sgiliau TG da, sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac ar bapur, diddordeb gwirioneddol mewn rheoli prosiectau treftadaeth, y gallu i ymdopi â sefyllfaoedd sy’n newid yn gyflym. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol. Mi fydd y gallu i yrru a mynediad i gar yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Gallwn gynnig:

  • Cyflog o £19,094 i’r rhai dan 23 neu £19,760 i’r rhai 23 oed a hŷn (cyflog byw cenedlaethol)
  • O leiaf 28 diwrnod o wyliau â thâl ar sail pro rata, gan gynnwys yr holl wyliau banc a gwyliau cyhoeddus
  • Tâl salwch uwch y cwmni
  • Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri ac ar reilffyrdd cenedlaethol yn unol â rheolau Teithio Staff y Rheilffyrdd sydd ar waith adeg y gyflogaeth
  • Cynllun Hyfforddi unigol sy’n cael ei adolygu’n rheolaidd
  • Mentor (ar wahân i’ch rheolwr llinell) i’ch helpu i wneud y gorau o’ch swydd dan hyfforddiant

Y cam cyntaf yw cofrestru eich diddordeb mewn dod i’r Diwrnod Agored neu, os na allwch ddod i’r diwrnod hwnnw, rhowch wybod i ni y bydd gennych ddiddordeb mewn gwneud cais.  Cynhelir y Diwrnod Agored rhwng 9am a 4pm a bydd yn cynnwys amrywiaeth eang o drafodaethau anffurfiol, ymweliadau â Gorsaf yr Harbwr a gorsaf arall ar y trên a thaith o amgylch Boston Lodge. Darperir cinio a lluniaeth. 

Bydd y ffurflen gais ar gael ar ôl y Diwrnod Agored gyda dyddiad cau disgwyliedig ddiwedd mis Mai a chyfle am ymweliad arall a chyfweliad ddiwedd mis Mehefin.

Dogfennau

Cynllun Hyfforddiant yr Hyfforddai Rheoli Prosiectau
Disgrifiad o’r Swydd

Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Dehongli a Chynllun Gweithgarwch y prosiect ar gael yma.