Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Mae Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri yn dechrau datblygu prosiect cenedlaethol mawr a ariennir gan y loteri a fydd yn darparu dehongliad ar draws y rheilffordd; datblygu sgiliau; gwarchod adeiladau hanesyddol yn Boston Lodge. Mae hwn yn gyfnod cyffrous gyda’r cyhoeddiad diweddar ar Safle Treftadaeth y Byd y mae gan y prosiect gysylltiadau agos ag ef ac uchelgeisiau a rennir i gael effaith gadarnhaol yn yr ardal.

Gweinyddwr Peirianneg dan Hyfforddiant

Mae gennym un swydd dan hyfforddiant dal ar gael. Dyma gyfle gwych i berson ifanc lleol ennill profiad a sgiliau mewn lleoliad peirianyddol a chael hyfforddiant yn y gwaith.

I wneud cais, llenwch y Ffurflen Gais a’r Ffurflen Gydraddoldeb ac Amrywiaeth sydd ar gael isod a’u hanfon drwy e-bost i nlhfapplications@ffwhr.com erbyn 5pm ar 30 Mehefin.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â nlhfapplications@ffwhr.com

Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn gweithio gyda’r Gweinyddwr Gwaith, y Rheolwr Gweithrediadau a’r Arweinydd Gwirfoddolwyr Peirianneg i gefnogi’r weinyddiaeth gynhyrchu (gan sicrhau bod gan y gweithdai y deunyddiau cywir ar yr adeg gywir). Byddant hefyd yn gyfrifol am reoli safleoedd yn gyffredinol, ymgymryd â gweinyddiaeth staff a gwirfoddolwyr o gadw cofnod o amserlenni hyd at olrhain cymwyseddau mewn cronfa ddata yn ogystal â chefnogi’r adran weithrediadau pan fo angen.

Bydd hyn yn addas i berson ifanc sy’n well ganddo/ganddi ddysgu yn y swydd ac sy’n awyddus i weithio mewn amgylchedd peirianneg a chael gwybod am y sgiliau sydd eu hangen i gynnal y gweithdai a chadw’r trenau yn gweithredu’n ddidrafferth. Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn cael ei gefnogi/chefnogi drwy raglen hyfforddi a datblygu, gan gynnwys ennill y cymwysterau priodol.

Rydym yn chwilio am rywun gyda:

(i) O leiaf pum TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu ‘NVQ2’ cyfatebol. Mae croeso i ymgeiswyr â chymwysterau uwch wneud cais.
(ii) Diddordeb mewn gweithio mewn amgylchedd peirianneg;
(iii) Sgiliau TG da;
(iv) Lefelau da o lythrennedd a rhifedd;
(v) Sgiliau trefnu a chynllunio cryf gyda sylw da i fanylion;
(vi) Sgiliau cyfathrebu da (yn ysgrifenedig ac yn lafar);
(vii) Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg (dymunol iawn).

Dogfennau

Swydd Ddisgrifiad
Cynllun Hyfforddiant
Ffurflen Gais
Ffurflen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Dolen i’r hysbysiad preifatrwydd