Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Y Prosiect

Gellir esbonio’r prosiect mewn tri maes rhyng-gysylltiedig:

Dehongli (adrodd y straeon), Gweithgareddau (ymgysylltu â phobl a datblygu sgiliau) ac Adeiladau (caniatau i Boston Lodge weithredu’n fwy effeithlon).

Egwyddorion

Yr egwyddorion sy’n allweddol i’r Cynllun Dehongli a Gweithgaredd yw

Cefnogi ymwelwyr i ddysgu am hanes a threftadaeth y rheilffordd a Gweithdai Boston Lodge

  • Ymgysylltu ac ysbrydoli gwirfoddolwyr i sicrhau bod y stori yn ehangu i’r dyfodol
  • Gweithio mewn partneriaeth â’r gymuned leol i ymgysylltu’n well a chynnwys pobl â’r rheilffordd a’i threftadaeth
  • Ysbrydoli pobl i ystyried gyrfa gyda’r rheilffordd neu Gweithdai Boston Lodge 
  • Cefnogi gwydnwch a chynaliadwyedd y sefydliad
  • Mae’r egwyddorion hyn wedi ysbrydoli penderfyniadau ar ba weithgareddau i’w gynnwys yn y prosiect a’r ffyrdd y bydd y rheilffordd yn cael ei ddehongli.

Cynllyn Gweithgaredd

Mae pum cam i’r Cynllun Gweithgaredd

  • Hyfforddeiaethau mewn rheoli prosiectau, a dehongli sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at y prosiect a cywiro bylchau sgiliau yn y sector a datblygu sgiliau sy’n addas ar gyfer swyddi lefel uchel yn yr ardal.
  • Lleoliadau gwaith ac allgymorth fel y gall pobl ifanc yn benodol, ddysgu sgiliau ymarferol sy’n canolbwyntio ar anghenion y rheilffordd gan gynnwys seilwaith, marchnata, dehongli a gweinyddu.
  • Prosiectau gwirfoddol ym maes dehongli a pheirianneg sy’n cynnwys datblygu arweinwyr gwirfoddol. Bydd hyn yn cynnwys ymchwil, casglu straeon gan deuluoedd lleol, datblygu dehongli a theithiau tywys a dysgu sut i arwain gweithdai.
  • Hyfforddiant sgiliau a gweithdai gan gynnwys dysgu treftadaeth arbenigol, teithiau prosiect yn ystod y gwaith adeiladu i ehangu ymwybyddiaeth o sgiliau treftadaeth, gweithdai a phrofiadau ysgolion a gweithdai cyhoeddus.
  • Teithiau tywys o gwmpas Gweithdai Boston Lodge.

Bydd cyflawni y rhaglen uchelgeisiol hon yn gymhleth ac felly yn cael ei oruchwylio gan y Rheolwr Prosiect ynghyd â Swyddog Dehongli, Goruchwyliwr Hyfforddiant a Digwyddiadau, Goruchwyliwr Gwirfoddolwyr Peirianneg a Swyddog Lleoli Gwaith.

Dehongli (adrodd y straeon)

Mae dehongli i gyd yn ymwneud ag adrodd straeon y rheilffordd ac rydym am sicrhau bod pob pwynt cyswllt yn gyfle i ddarganfod mwy. Mae taith yr ymwelydd o’r wefan / poster i’r gorsafoedd, ymlaen i’r trenau ac wedi hynny yn cael ei ystyried er mwyn sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad addysgiadol a gwerth chweil sy’n eu ysbrydoli i ddod yn ôl i ymweld neu hyd yn oed i wirfoddoli yn y dyfodol.

Rhan sylfaenol o ddehongli RHFFE yw adrodd straeon gan staff a gwirfoddolwyr a bydd y prosiect yn darparu cefnogaeth i hyfforddi pobl yn y straeon allweddol a sut i adrodd y straeon hyn. Yn amlwg mae llawer mwy o straeon nag y gallwn eu hadrodd ond bydd y prosiect yn galluogi sylfaen dda o straeon a gellir ei ddefnyddio yn effeithiol ac gellir ychwanegu atynt dros amser. Bydd y straeon yn gasgliad o’r rhai sy’n ymwneud â’r diwydiant llechi, yr heriau sy’n gwynebu’r rheilffordd (adeiladu ac adfer), cludo teithwyr, y sgiliau sydd eu hangen (ddoe a heddiw) y rhwydwaith o wirfoddolwyr a’u straeon a’u chysylltiadau â theuluoedd lleol a’u straeon.

Er mwyn cefnogi’r prosiect o adrodd straeon bydd dehongliad ychwanegol yn y gorsafoedd mwyaf poblogaidd (Caernarfon, Beddgelert, Porthmadog, Tan y Bwlch, Blaenau Ffestiniog) a chasgliad o straeon lleol yn rhai o’r gorsafoedd llai. Rydym hefyd yn edrych ar ap syml y gellir ei lawrlwytho ar ffonau symudol cyn taith a fydd yn helpu pobl i weld nodweddion diddorol, heb iddynt gael eu gludo i’w sgriniau!

Bydd y prosiect yn cynnwys teithiau mwy rheolaidd o amgylch Boston Lodge gan roi cyfleoedd eang i bobl weld y tu ôl i’r llenni a deallt fwy am ddatblygiad y rheilffordd a’r hyn sydd ei angen i gadw’r olwynion yn troi.

Mi gafodd y wefan newydd ei ailstrwythuro i ymdopi â Covid yn 2020, ac er ei fod heb gael cyfle i addasu ar hyn o bryd, rydym yn anelu i’w addasu a’i ddatblygu yn drylwyr yn 2021. Mi fydd hyn yn helpu ymwelwyr i ddarganfod mwy am y prosiect yn ogystal â archebu tocynnau threnau a rhoi cyfleoedd i anfon adborth a rhannu profiadau.

Adeiladau yn Boston Lodge

Bydd y gwaith yn Boston Lodge yn cefnogi’r egwyddorion sylfaenol ar gyfer y Cynlluniau Gweithgaredd a Dehongli gan ddod ag adeiladau hanesyddol yn ôl i ddefnydd, creu gwagle ar gyfer prosiectau a gwneud i’r safle weithredu yn fwy effeithlon.

Bydd y gwaith adfer ac adeiladu yn Boston Lodge yn cynnwys:

  • Cwblhau’r gwaith o adfer y Gofaint i greu gwagle ar gyfer prosiectau gwirfoddol.
  • Adeiladu estyniad newydd i’r Gofaint i greu’r ganolfan hyfforddi ac ymchwil y Gronafa Treftadaeth Loteri Genedlaethol (CTLG) sydd â gwagle storio y tu ôl iddo ar gyfer paledi.
  • Atgyweirio’r Ffowndri Haearn i’w ddefnyddio fel storfa a safle ar gyfer prosiectau gwirfoddol.
  • Atgyweirio’r Ffowndri Bres a pharhau i’w ddefnyddio ar gyfer storio.
  • Dymchwel y Den presennol a chreu adeilad newydd, disgwylir iddo gael ei ddefnyddio fel ardal storio sydd wedi’i ddadleoli o safle arall.
  • Atgyweirio gweithdy presennol y trydanwyr a’r storfa olew a’i ymestyn i ddarparu gwell cyfleusterau llanast, toiledau a gweithdy trydanwr.
  • Cwblhau gwaith adfer Plas Smart.
  • Adeiladu ardal storio a chyfeiriadedd ymwelwyr newydd yn safle gorfennol y Sied Hen ‘Waggon’ yn yr Iard Uchaf (yn unol â Plas Smart ond ar ochr arall y ffordd).
  • Creu ardal ddehongli fach ar ddiwedd yr ‘Sied Hen Injan’ lle bydd teithiau tywys yn dod i ben.
  • Adeiladu ‘Sied Loco Bach’ newydd ar gyfer y prosiect ‘CTLG’.