Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Hyfforddai Gweinyddu Gwaith – bydd y swydd hon yn addas ar gyfer ymgeisydd trefnus iawn sydd â chymwysterau lefel A neu NVQ 3 sydd eisoes â sgiliau trefnu a TG da ond a fyddai’n hoffi gweithio mewn amgylchedd peirianneg a chael profiad o’r hyn sy’n ofynnol y tu ôl i’r llenni i sicrhau bod gwaith peirianyddol mawr yn rhedeg yn esmwyth. Bydd yn gweithio gyda Gweinyddwr Gwaith Boston Lodge.

Yr hyn rydym yn chwilio amdano – Sgiliau trefnu cryf, sgiliau TG da, sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac ar bapur, diddordeb mewn peirianneg. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol. Mi fydd y gallu i yrru a mynediad i gar yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Gallwn gynnig:

  • Cyflog o £19,094 i’r rhai dan 23 neu £19,760 i’r rhai 23 oed a hŷn (cyflog byw cenedlaethol)
  • O leiaf 28 diwrnod o wyliau â thâl ar sail pro rata, gan gynnwys yr holl wyliau banc a gwyliau cyhoeddus
  • Tâl salwch uwch y cwmni
  • Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri ac ar reilffyrdd cenedlaethol yn unol â rheolau Teithio Staff y Rheilffyrdd sydd ar waith adeg y gyflogaeth
  • Cynllun Hyfforddi unigol sy’n cael ei adolygu’n rheolaidd
  • Mentor (ar wahân i’ch rheolwr llinell) i’ch helpu i wneud y gorau o’ch swydd dan hyfforddiant

Y cam cyntaf yw cofrestru eich diddordeb mewn dod i’r Diwrnod Agored neu, os na allwch ddod i’r diwrnod hwnnw, rhowch wybod i ni y bydd gennych ddiddordeb mewn gwneud cais.  Cynhelir y Diwrnod Agored rhwng 9am a 4pm a bydd yn cynnwys amrywiaeth eang o drafodaethau anffurfiol, ymweliadau â Gorsaf yr Harbwr a gorsaf arall ar y trên a thaith o amgylch Boston Lodge. Darperir cinio a lluniaeth. 

Bydd y ffurflen gais ar gael ar ôl y Diwrnod Agored gyda dyddiad cau disgwyliedig ddiwedd mis Mai a chyfle am ymweliad arall a chyfweliad ddiwedd mis Mehefin.

Dogfennau

Cynllun Hyfforddiant yr Hyfforddai Gweinyddu Gwaith
Disgrifiad o’r Swydd

Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Dehongli a Chynllun Gweithgarwch y prosiect ar gael yma.

Dyddiad cau: Hanner dydd ar 11fed o Awst