Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Mae Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri yn dechrau datblygu prosiect cenedlaethol mawr a ariennir gan y loteri a fydd yn darparu dehongliad ar draws y rheilffordd; datblygu sgiliau; gwarchod adeiladau hanesyddol yn Boston Lodge. Mae hwn yn gyfnod cyffrous gyda’r cyhoeddiad diweddar ar Safle Treftadaeth y Byd y mae gan y prosiect gysylltiadau agos ag ef ac uchelgeisiau a rennir i gael effaith gadarnhaol yn yr ardal.

I gyflawni’r rhaglen uchelgeisiol hon fydd y Rheolwr Prosiect Treftadaeth (eisoes yn ei swydd) ynghyd â Swyddog Dehongli, Goruchwyliwr Hyfforddiant a Digwyddiadau, Goruchwylydd Gwirfoddolwyr Peirianneg, Swyddog Lleoliadau Gwaith a Rheolwr Prosiect Adeiladu. Bydd tair swydd dan hyfforddiant hefyd yn ymwneud â Dehongli, Gweinyddu Gwaith a Rheoli Prosiectau. Bydd pob swydd yn cael ei hysbysebu ar y wefan hon.

Goruchwyliwr Hyfforddiant a Digwyddiadau

Swydd allweddol i’r prosiect yw’r goruchwyliwr Hyfforddiant a Digwyddiadau a fydd yn helpu i drefnu ac yna darparu hyfforddiant sgiliau a chadw cofnodion dilynol ar gyfer gwirfoddolwyr peirianneg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn helpu i hwyluso gweithdai i ysgolion ac aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb.

Swyddog Lleoliadau Gwaith

Mae Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri yn chwilio am Swyddog Lleoliadau Gwaith brwdfrydig i gefnogi elfen sgiliau prosiect mawr a ariennir gan y Loteri Genedlaethol a fydd yn darparu dehongliad ar draws y rheilffordd, ac yn datblygu sgiliau ac yn gwarchod adeiladau. Mae hwn yn gyfnod cyffrous gyda’r cyhoeddiad diweddar am Safle Treftadaeth y Byd; mae gan y prosiect gysylltiadau agos â’r Safle ac mae’n rhannu’r un uchelgais i gael effaith gadarnhaol yn yr ardal.

Rheolwr Prosiect Adeiladu

Mae Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri yn ymgymryd â phrosiect mawr a ariennir gan y loteri genedlaethol a fydd yn darparu dehongliad ar draws y rheilffordd; yn datblygu sgiliau; ac yn gwarchod adeiladau hanesyddol yn Boston Lodge. Mae hwn yn gyfnod cyffrous gyda’r cyhoeddiad diweddar am Safle Treftadaeth y Byd; mae gan y prosiect gysylltiadau agos â’r Safle ac mae’n rhannu’r un uchelgais i gael effaith gadarnhaol yn yr ardal.

Hyfforddeion

Mae gan Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri dair swydd i hyfforddeion fel rhan o Brosiect Dehongli’r Rheilffyrdd a Boston Lodge a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Bydd dwy swydd, ym maes dehongli a rheoli prosiectau, yn addas i raddedigion sy’n chwilio am brofiad yn y sector treftadaeth a bydd un swydd arall yn addas i rywun sy’n chwilio am brofiad o weinyddu mewn amgylchedd peirianneg.

Mae tair prif elfen i’r prosiect:  dehongliadau ar draws y rheilffyrdd, datblygu sgiliau, a diogelu adeiladau. Mae hwn yn gyfnod cyffrous gyda’r cyhoeddiad diweddar am ddynodi Tirweddau Llechi Gogledd Cymru yn Safle Treftadaeth Byd. Mae gan y prosiect gysylltiadau agos â’r ardaloedd llechi ac mae’n rhannu’r un uchelgais i gael effaith gadarnhaol yn yr ardal.

Mae’r swyddi dan hyfforddiant yn rhai llawn-amser, am 2 flynedd, yn dechrau ym mis Medi ac yn denu’r cyflog byw. Maent yn rhan o elfen sgiliau’r prosiect ac mae hwn yn gyfle gwych i’r unigolion iawn ddatblygu sgiliau mewn amgylchedd treftadaeth lle nad oes llawer o gyrsiau ffurfiol.

Dylid anfon ceisiadau at nlhfapplications@ffwhr.com

Hyfforddai Dehongli – Ceisiadau wedi’u cau
Hyfforddai Rheoli Prosiect – Ceisiadau wedi cau
Hyfforddai Gweinyddu Gwaith – Ail-hysbysebu, dyddiad cau newydd 11 Awst

Er y byddem yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sydd â’r hawl i fyw a gweithio yn y DU rydym yn awyddus i hyrwyddo’r defnydd o Gymraeg yn y gweithle, a datblygu sgiliau treftadaeth o fewn Cymru felly byddem yn annog ceisiadau gan y rhai sy’n siarad neu’n dysgu Cymraeg a’r rhai sy’n dod o Gymru a/neu wedi’u hyfforddi yng Nghymru ac yn chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau o fewn y sector treftadaeth yng Nghymru.

Hyfforddai Gweinyddu Gwaith

Bydd y swydd hon yn addas ar gyfer ymgeisydd trefnus iawn sydd â chymwysterau lefel A neu NVQ 3 sydd eisoes â sgiliau trefnu a TG da ond a fyddai’n hoffi gweithio mewn amgylchedd peirianneg a chael profiad o’r hyn sy’n ofynnol y tu ôl i’r llenni i sicrhau bod gwaith peirianyddol mawr yn rhedeg yn esmwyth. Bydd yn gweithio gyda Gweinyddwr Gwaith Boston Lodge.

Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn ddwy o reilffyrdd treftadaeth mwyaf poblogaidd y DU, wedi’u lleoli yng nghanol harddwch Eryri. Mae ein busnes, sydd wedi’i anelu at y farchnad dwristiaeth, yn sefyll allan fel y gorau yn y diwydiant. Fel cyflogwr pwysig yn yr ardal leol, rydym yn darparu cyflogaeth i beirianwyr sifil, peirianwyr mecanyddol, gweithwyr coed a seiri coed, yn ogystal â swyddi ym maes lletygarwch a thwristiaeth. Rydym yn deulu yma yn Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, lle mae aelodau staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth staff o fewn ein gweithlu ac i ddarparu amgylchedd gwaith cynhwysol i bawb. Rydym yn gyflogwr Anabledd Hyderus. Er mwyn ein helpu i weithredu a monitro ein polisiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, a allech chi lenwi’r ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth isod ar ôl gwneud cais i ni. Dim ond unwaith y mae angen i chi wneud hyn, hyd yn oed os ydych chi’n cyflwyno mwy nag un cais.

Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri wedi cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod pob un o’n gweithleoedd yn ddiogel o ran y sefyllfa Covid bresennol.

Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Ymgeiswyr cyn cyflwyno cais i Rheilffyrdd Ffestiniog ag Eryri.