Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Dyddiad cychwyn: ‘ASAP’

Cyflog o £15,900 (£26,500 pro rata y flwyddyn)

Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn ymgymryd â phrosiect mawr a ariennir gan y loteri genedlaethol a fydd yn darparu dehongliad ar draws y rheilffordd; yn datblygu sgiliau; ac yn gwarchod adeiladau hanesyddol yn Boston Lodge. Mae hwn yn gyfnod cyffrous gyda’r cyhoeddiad diweddar am Safle Treftadaeth y Byd; mae gan y prosiect gysylltiadau agos â’r Safle ac mae’n rhannu’r un uchelgais i gael effaith gadarnhaol yn yr ardal.

Swydd allweddol i’r prosiect yw’r goruchwyliwr Hyfforddiant a Digwyddiadau a fydd yn helpu i drefnu ac yna darparu hyfforddiant sgiliau a chadw cofnodion dilynol ar gyfer gwirfoddolwyr peirianneg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn helpu i hwyluso gweithdai i ysgolion ac aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb.

Sgiliau craidd:

  • Sgiliau peirianneg sy’n berthnasol i reilffordd treftadaeth a gefnogir gan gymhwyster perthnasol
  • Sgiliau arwain tîm a phrofiad sy’n dangos y gallu i hwyluso nifer o brosiectau yn effeithiol.
  • Profiad o hyfforddi a mentora
  • Gallu amlwg i ganolbwyntio ar bobl ac yn meddu ar sgiliau rheoli cysylltiadau rhagorol gan ddangos y gallu i weithio gyda gwirfoddolwyr a staff ar bob lefel
  • Gallu cynllunio nifer o ffrydiau gwaith
  • Sgiliau gweinyddol da i gefnogi gweithgareddau a thimau gwirfoddoli
  • Profiad amlwg o gyfathrebu’n effeithiol
  • Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn fantais glir yn ogystal â gwybodaeth am y rheilffyrdd, a’r ardal leol

Gallwn gynnig:

  • Cyflog o £15,900 (£26,500 pro rata y flwyddyn)
  • O leiaf 28 diwrnod o wyliau â thâl pro rata, gan gynnwys pob gŵyl banc a gŵyl gyhoeddus
  • Cofrestru ar gyfer cynllun pensiwn y cwmni ar ôl y cyfnod cymhwyso
  • Tâl salwch uwch y cwmni
  • Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri ac ar reilffyrdd cenedlaethol yn unol â rheolau Teithio Staff y Rheilffyrdd sydd ar waith adeg cyflogaeth.

Contract 0.6 cyfwerth ag amser llawn ydy hwn am 2 flynedd, a fydd yn dechrau yn ystod tymor yr hydref, 2022, yn Boston Lodge, Minffordd, Penrhyndeudraeth. Bydd angen gweithio rhywfaint ar benwythnosau ar gyfer y swydd hon. Rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i fod yn hyblyg o ran oriau / diwrnodau gwaith er mwyn hwyluso’r gweithgorau a arweinir gan wirfoddolwyr.

Dylid anfon pob cais drwy wefan y prosiect, lle mae rhagor o wybodaeth ar gael.  Y dyddiad cau yw hanner dydd ar 26 Awst

Dogfennau

Activity Plan
Job Description
Application Information Pack
Project Application Form
Equality & Diversity Form

Dyddiad cau: Hanner dydd ar 26fed o Awst