Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Dyddiad Cychwyn: Medi/Hydref 2022

Cyflog o £14,500 y flwyddyn yn seiliedig ar 0.5 FTE (pro rata o £29,000)

Mae Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri yn chwilio am Rheolwr Prosiect Adeiladu rhan amser gyda phrofiad o adeiladu, gan gynnwys cadwraeth, i gefnogi’r gwaith o gyflawni cam adeiladu prosiect mawr drwy ddarparu cyswllt o ddydd i ddydd â’r contractwr ar y safle a chysylltu â Staff Boston Lodge i sicrhau bod y safle’n weithredol.

Mae Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri yn ymgymryd â phrosiect mawr a ariennir gan y loteri genedlaethol a fydd yn darparu dehongliad ar draws y rheilffordd; yn datblygu sgiliau; ac yn gwarchod adeiladau hanesyddol yn Boston Lodge. Mae hwn yn gyfnod cyffrous gyda’r cyhoeddiad diweddar am Safle Treftadaeth y Byd; mae gan y prosiect gysylltiadau agos â’r Safle ac mae’n rhannu’r un uchelgais i gael effaith gadarnhaol yn yr ardal.

Byddai hyn yn arbennig o addas i rywun sy’n gyfarwydd â rheilffyrdd treftadaeth a rheolwyr prosiectau adeiladu sy’n gallu ymweld â’r safle y rhan fwyaf o ddiwrnodau.

Sgiliau craidd:

  • Profiad o reoli gwaith contractio a chadwraeth (H)
  • Profiad sylweddol o gysylltu’n effeithiol â chontractwyr a chleientiaid (H)
  • Profiad o reoli contractwyr ar safle gweithredu byw (H)
  • Profiad o fonitro cyllidebau cyfalaf a heb fod yn rhai cyfalaf, gan gynnwys gwirio prisiadau yn erbyn Biliau Priodweddau (H)
  • Gwybodaeth am ddiogelwch rheilffyrdd (H)
  • Sgiliau cadarn o ran rheoli prosiect (H) 
  • Sgiliau trefnu rhagorol (H) 
  • Sgiliau cyfathrebu hynod effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig (H) 
  • Sgiliau mentora neu hyfforddi (D) 
  • Gallu siarad Cymraeg (D) 

Gallwn gynnig:

  • Cyflog o £14,500 y flwyddyn yn seiliedig ar 0.5 FTE (pro rata o £29,000)
  • O leiaf 28 diwrnod o wyliau â thâl ar sail pro rata, gan gynnwys yr holl wyliau banc a gwyliau cyhoeddus
  • Cofrestru ar gyfer cynllun pensiwn y cwmni ar ôl y cyfnod cymhwyso
  • Tâl salwch uwch y cwmni
  • Manteision teithio ar Reilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Eryri ac ar reilffyrdd cenedlaethol yn unol â rheolau Teithio Staff y Rheilffyrdd sydd ar waith adeg cyflogaeth.

Contract llawn amser 0.5 ‘FTE’ am 18 blynedd, a fydd yn dechrau ym mis Medi neu Hydref 2022, yn Boston Lodge, Minffordd, Penrhyndeudraeth.   Rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i fod yn hyblyg dros oriau gwaith / diwrnodau a disgwylir iddynt allu bod ar y safle y rhan fwyaf o ddiwrnodau gwaith yr wythnos.

Dylid anfon pob cais drwy wefan y prosiect (nlhfproject.festrail.co.uk), lle mae rhagor o wybodaeth ar gael.

Dyddiad cau: 8fed Awst (Hanner Dydd)

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 23ain Awst

Dylai pob cais ddilyn y canllawiau yn y Wybodaeth Cais a rhaid iddo gynnwys Ffurflen Gais wedi’i chwblhau a Ffurflen Monitro Recriwtio Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a gall hefyd gynnwys CV, pob un wedi’i e-bostio i nlhfapplications@ffwhr.com.

Dogfennau

Disgrifiad Swydd
Pecyn recriwtio Rheolwr Prosiect Adeiladu
Project Application Form
Equality & Diversity Form