Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Start Date: Early 2022

Salary: £21,200 (pro rata of £26,500 per annum)

Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn chwilio am Swyddog Dehongli profiadol i ymuno â’n tîm prosiect cleientiaid i weithio’n agos gyda’r dylunwyr dehongli (Creative Core), ac felly i gefnogi’r elfen ddehongli mewn prosiect mawr sy’n cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol.  Mae tair prif elfen i’r prosiect:  dehongliadau ar draws y rheilffordd, datblygu sgiliau, a diogelu adeiladau. Mae hwn yn gyfnod cyffrous gyda’r cyhoeddiad diweddar am Safle Treftadaeth y Byd; mae gan y prosiect gysylltiadau agos â’r Safle ac mae’n rhannu’r un uchelgais i gael effaith gadarnhaol yn yr ardal.

Bydd y Swyddog Dehongli yn gweithio’n agos gyda’r Ymgynghorydd Dehongli (Creative Core) i gyflwyno cynllun o weithgareddau dehongli ac ymgysylltu newydd o ansawdd uchel yng Ngweithdai Boston Lodge, Porthmadog, ac ar draws Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri. Bydd y Swyddog hefyd yn gyfrifol am ddatblygu rhaglen newydd o deithiau tywys yng Ngweithdai Boston Lodge, ac am reoli Hyfforddai Dehongli.

Core skills:

  • Llawer o brofiad o Ddehongli, a gwybodaeth eang am hynny
  • Datblygu dehongliadau, gan gynnwys ymchwil archifo
  • Cyd-greu gyda chynulleidfaoedd (gan gynnwys y gymuned leol)
  • Tîm cydweithredol, gan gynnwys gweithio gydag ymgynghorwyr allanol
  • Sgiliau Rheoli Prosiect Dehongli
  • Gweithio gyda thimau o wirfoddolwyr i ddatblygu cynnwys

Gallwn gynnig:

  • Cyflog o £21,200 (£26,500 pro rata) y flwyddyn
  • O leiaf 28 diwrnod o wyliau â thâl ar sail pro rata, gan gynnwys yr holl wyliau banc a gwyliau cyhoeddus
  • Cofrestru ar gyfer cynllun pensiwn y cwmni ar ôl y cyfnod cymhwyso
  • Tâl salwch uwch y cwmni
  • Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri ac ar reilffyrdd cenedlaethol, yn unol â rheolau Teithio Staff y Rheilffyrdd sydd ar waith adeg cyflogaeth.

Dylai pob cais ddilyn y canllawiau yn yr Wybodaeth Ymgeisio a chynnwys Ffurflen Gais wedi’i llenwi ynghyd â Ffurflen Monitro Recriwtio ar gyfer Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, a gall hefyd gynnwys CV, a dylid anfon pob un mewn neges e-bost i nlhfapplications@ffwhr.com.

Dogfennau:

Application Information Pack
Activity Plan
Interpretation Plan
Project Application Form
Equality & Diversity Form

Closing Date for applications: Hanner dydd a 10 Ionawr