Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri yn Chwilio am Straeon gan y Gymuned Leol

Fel rhan o brosiect dehongli newydd, mae Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri, y rheilffordd stêm draddodiadol hiraf ym Mhrydain, yn gofyn i bobl sy’n byw rhwng Blaenau Ffestiniog a Chaernarfon, a thu hwnt, i ddod ymlaen gyda’u straeon am y rheilffyrdd.

Gall y rhain gynnwys hanesion teuluol am hynafiaid a oedd yn gweithio ar y rheilffyrdd, neu sut yr effeithiodd y rheilffyrdd ar gymunedau neu fywydau.

Mae’r apêl yn rhan o brosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a fydd yn canolbwyntio ar ddehongliadau newydd ar draws y ddwy reilffordd, yn ogystal â gwaith adeiladu newydd yn Boston Lodge, safle gweithdai Rheilffordd Ffestiniog, lle mae locomotifau a cherbydau wedi cael eu hadeiladu a’u cynnal a’u cadw ers bron i 200 mlynedd. Prif amcanion y prosiect yn y pen draw yw agor Boston Lodge ar gyfer teithiau tywys yn 2024.

Nid yw’r rheilffyrdd wedi rhoi cynnig ar y dull hwn o’r blaen; mae’n llwybr newydd diddorol yn eu hanes. Maen nhw’n awyddus i annog pobl i ddod ymlaen oherwydd mae’n rhaid bod llond trol o straeon i’w cael o gofio bod y gwaith o ddatblygu’r rheilffyrdd wedi dechrau yn yr 1830au, ac wedi parhau hyd heddiw, gyda’r cyfnod cadwraeth yn dechrau yn yr 1950au.

Ydy’r straeon hyn yn gallu helpu’r rheilffordd? Mae Jim Embrey, Swyddog Dehongli’r prosiect, yn siŵr o hynny a dywedodd “Rydyn ni’n gwybod bod gan lawer o bobl leol neiniau a theidiau, yn ogystal â hen neiniau a hen deidiau, a oedd yn gweithio ar y rheilffordd. Ein nod yw cofnodi eu straeon a’u defnyddio i wella profiad ein hymwelwyr drwy adrodd y straeon hyn wrthynt a, gobeithio, eu hannog i ymweld â ni eto.”

Os oes gan bobl ddiddordeb mewn cyfrannu eu straeon i’r prosiect, gallan nhw gysylltu â’r Swyddog Dehongli. Gallwch wirfoddoli os ydych yn dymuno cymryd mwy o ran yn y prosiect trwy ymchwilio ymhellach i’r straeon a gyflwynir gan ddefnyddio archifau sylweddol y rheilffordd, a byddwch yn cael hyfforddiant i helpu gyda’r gwaith hwn. Mae Jim Embrey yn awyddus iawn i glywed gan bobl sydd â straeon diddorol yn ogystal â’r rheini sy’n awyddus i wneud yr ymchwil manylach. Cysylltwch trwy anfon neges e-bost at jembrey@ffwhr.com.