Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Diweddariad Prosiect ar gyfer Ebrill

Dehongliad

Mae’r rhan hon o’r prosiect wedi dechrau o ddifrif. Mae grŵp bychan o wirfoddolwyr wedi dod ymlaen i ddechrau cyfrannu at lunio’r nodiadau ymchwil sydd eu hangen am y 41 stori gychwynnol a fydd yn sail i’r dehongliad corfforol a fydd yn cael ei osod yn y rhan fwyaf o orsafoedd ac arosfannau rhwng Caernarfon a Blaenau Ffestiniog yn 2023 a 2024.

Mae’r broses yn cynnwys dewis stori o ddiddordeb personol, ac yna ymchwilio iddi drwy ddefnyddio llyfrau, cyfnodolion y ‘Railway Heritage Societies’, Cylchgronau y Cymdeithasau, a’r canllawiau rheilffordd, i lunio cofnod clir syml. Yr offeryn cyfrinachol yw’r camera ar ffôn ‘smart’! Unwaith y bydd nodyn ymchwil wedi’i lunio, caiff ei anfon ymlaen at awduron proffesiynol i’w ddatblygu’n llawn.

Mi fyddwn yn parhau i groesawu rhagor o wirfoddolwyr, a’r gobaith yw gwneud rhai darganfyddiadau newydd am y bobl sydd wedi adeiladu’r ddwy reilffordd dros y 190 mlynedd diwethaf. Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â Jim Embrey, e-bost: jembrey@ffwhr.com

Gwaith yn Boston Lodge

Mae’r gwaith dylunio bellach wedi cyrraedd y cam tendro a bydd y prif gontract allan i dendr ym mis Mai. Mae’r cynnydd chwerthinllyd mewn costau adeiladu yn amlwg yn bryder ond bydd yn rhaid i ni weld beth a gawn yn ôl gan gwmniau sy’n tendro.

Yn y cyfamser rydym wedi bod yn gwneud gwaith paratoi ar y safle ac yn aros i Scottish Power gwblhau y gwaith ar y cebl Foltedd Uchel ac i Dŵr Cymru wneud y cysylltiad terfynol ar gyfer uwchraddio’r cyflenwad dŵr.

Mae tîm o wirfoddolwyr wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith ar y llawr yn H2 i osod trac ar gyfer dod â wagenni llechi i mewn ym mhob un o’r tair mynedfa yn hytrach na dim ond un fel sy’n wir ar hyn o bryd. Darganfyddiad diddorol yw’r hyn sy’n ymddangos fel sylfaen y morthwyl ager a oedd ar y pen agosaf at y Ffowndri Haearn.