Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Hyfforddai Dehongli – bydd y swydd hon yn addas i ymgeisydd ar lefel sy’n cyfateb i radd sy’n dymuno cael profiad ymarferol o ddatblygu deunydd dehongli (gweithio gyda gwirfoddolwyr a’r archifdy) a bydd yn gweithio ochr yn ochr â (ac yn cael ei fentora gan) gwmni dehongli profiadol, The Creative Core, sy’n darparu’r dehongliadau ar gyfer y prosiect. Bydd yn gweithio gyda’r Swyddog Dehongli.

Yr hyn rydym yn chwilio amdano – Sgiliau trefnu cryf, y gallu i gynllunio ac ymchwilio, sgiliau TG da, sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac ar bapur, diddordeb gwirioneddol mewn dehongli treftadaeth, y gallu i ymdopi â sefyllfaoedd sy’n newid yn gyflym.  Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol. Mi fydd y gallu i yrru a mynediad i gar yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Gallwn gynnig:

  • Cyflog o £19,094 i’r rhai dan 23 neu £19,760 i’r rhai 23 oed a hŷn (cyflog byw cenedlaethol)
  • O leiaf 28 diwrnod o wyliau â thâl ar sail pro rata, gan gynnwys yr holl wyliau banc a gwyliau cyhoeddus
  • Tâl salwch uwch y cwmni
  • Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri ac ar reilffyrdd cenedlaethol yn unol â rheolau Teithio Staff y Rheilffyrdd sydd ar waith adeg y gyflogaeth
  • Cynllun Hyfforddi unigol sy’n cael ei adolygu’n rheolaidd
  • Mentor (ar wahân i’ch rheolwr llinell) i’ch helpu i wneud y gorau o’ch swydd dan hyfforddiant

Y cam cyntaf yw cofrestru eich diddordeb mewn dod i’r Diwrnod Agored neu, os na allwch ddod i’r diwrnod hwnnw, rhowch wybod i ni y bydd gennych ddiddordeb mewn gwneud cais.  Cynhelir y Diwrnod Agored rhwng 9am a 4pm a bydd yn cynnwys amrywiaeth eang o drafodaethau anffurfiol, ymweliadau â Gorsaf yr Harbwr a gorsaf arall ar y trên a thaith o amgylch Boston Lodge. Darperir cinio a lluniaeth. 

Bydd y ffurflen gais ar gael ar ôl y Diwrnod Agored gyda dyddiad cau disgwyliedig ddiwedd mis Mai a chyfle am ymweliad arall a chyfweliad ddiwedd mis Mehefin.

Dogfennau

Cynllun Hyfforddiant yr Hyfforddai Dehongli
Disgrifiad o’r Swydd

Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Dehongli a Chynllun Gweithgarwch y prosiect ar gael yma.