Goruchwyliwr Hyfforddiant a Digwyddiadau
Dyddiad cychwyn: ‘ASAP’
Cyflog o £15,900 (£26,500 pro rata y flwyddyn)
Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn ymgymryd â phrosiect mawr a ariennir gan y loteri genedlaethol a fydd yn darparu dehongliad ar draws y rheilffordd; yn datblygu sgiliau; ac yn gwarchod adeiladau hanesyddol yn Boston Lodge. Mae hwn yn gyfnod cyffrous gyda’r cyhoeddiad diweddar am Safle Treftadaeth y Byd; mae gan y prosiect gysylltiadau agos â’r Safle ac mae’n rhannu’r un uchelgais i gael effaith gadarnhaol yn yr ardal.
Swydd allweddol i’r prosiect yw’r goruchwyliwr Hyfforddiant a Digwyddiadau a fydd yn helpu i drefnu ac yna darparu hyfforddiant sgiliau a chadw cofnodion dilynol ar gyfer gwirfoddolwyr peirianneg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn helpu i hwyluso gweithdai i ysgolion ac aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb.
Sgiliau craidd:
- Sgiliau peirianneg sy’n berthnasol i reilffordd treftadaeth a gefnogir gan gymhwyster perthnasol
- Sgiliau arwain tîm a phrofiad sy’n dangos y gallu i hwyluso nifer o brosiectau yn effeithiol.
- Profiad o hyfforddi a mentora
- Gallu amlwg i ganolbwyntio ar bobl ac yn meddu ar sgiliau rheoli cysylltiadau rhagorol gan ddangos y gallu i weithio gyda gwirfoddolwyr a staff ar bob lefel
- Gallu cynllunio nifer o ffrydiau gwaith
- Sgiliau gweinyddol da i gefnogi gweithgareddau a thimau gwirfoddoli
- Profiad amlwg o gyfathrebu’n effeithiol
- Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn fantais glir yn ogystal â gwybodaeth am y rheilffyrdd, a’r ardal leol
Gallwn gynnig:
- Cyflog o £15,900 (£26,500 pro rata y flwyddyn)
- O leiaf 28 diwrnod o wyliau â thâl pro rata, gan gynnwys pob gŵyl banc a gŵyl gyhoeddus
- Cofrestru ar gyfer cynllun pensiwn y cwmni ar ôl y cyfnod cymhwyso
- Tâl salwch uwch y cwmni
- Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri ac ar reilffyrdd cenedlaethol yn unol â rheolau Teithio Staff y Rheilffyrdd sydd ar waith adeg cyflogaeth.
Contract 0.6 cyfwerth ag amser llawn ydy hwn am 2 flynedd, a fydd yn dechrau yn ystod tymor yr hydref, 2022, yn Boston Lodge, Minffordd, Penrhyndeudraeth. Bydd angen gweithio rhywfaint ar benwythnosau ar gyfer y swydd hon. Rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i fod yn hyblyg o ran oriau / diwrnodau gwaith er mwyn hwyluso’r gweithgorau a arweinir gan wirfoddolwyr.
Dylid anfon pob cais drwy wefan y prosiect, lle mae rhagor o wybodaeth ar gael. Y dyddiad cau yw hanner dydd ar 26 Awst
Dogfennau
Activity Plan
Job Description
Application Information Pack
Project Application Form
Equality & Diversity Form
Dyddiad cau: Hanner dydd ar 26fed o Awst