Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Diwrnod Agored 7fed Ebrill 2022

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio yn y sector treftadaeth?

Ydych chi’n chwilio am ffordd o gael profiad?

Mae gan Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri dair swydd i hyfforddeion fel rhan o Brosiect Dehongli’r Rheilffyrdd a Boston Lodge a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Bydd dwy swydd, ym maes dehongli a rheoli prosiectau, yn addas i raddedigion sy’n chwilio am brofiad yn y sector treftadaeth a bydd un swydd arall yn addas i rywun sy’n chwilio am brofiad o weinyddu mewn amgylchedd peirianneg.

Mae tair prif elfen i’r prosiect:  dehongliadau ar draws y rheilffyrdd, datblygu sgiliau, a diogelu adeiladau. Mae hwn yn gyfnod cyffrous gyda’r cyhoeddiad diweddar am ddynodi Tirweddau Llechi Gogledd Cymru yn Safle Treftadaeth Byd. Mae gan y prosiect gysylltiadau agos â’r ardaloedd llechi ac mae’n rhannu’r un uchelgais i gael effaith gadarnhaol yn yr ardal.

Mae’r swyddi dan hyfforddiant yn rhai llawn-amser, am 2 flynedd, yn dechrau ym mis Medi ac yn denu’r cyflog byw. Maent yn rhan o elfen sgiliau’r prosiect ac mae hwn yn gyfle gwych i’r unigolion iawn ddatblygu sgiliau mewn amgylchedd treftadaeth lle nad oes llawer o gyrsiau ffurfiol. 

Dewch i gael rhagor o wybodaeth yn y diwrnod agored ym mis Ebrill lle gallwch gwrdd â’r bobl y byddech chi’n gweithio gyda nhw a chael rhagor o wybodaeth am y swyddi dan hyfforddiant, y prosiect a’r rheilffyrdd.  Gallwch benderfynu a ydych chi am wneud cais am swydd hyfforddai ar ôl i chi fod yn y diwrnod agored!

Bydd ein diwrnod agored yn cael ei gynnal rhwng 9yb – 4yh yn Boston Lodge ar y 7fed o Ebrill.

Er y byddem yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sydd â’r hawl i fyw a gweithio yn y DU, rydym yn awyddus i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, a datblygu sgiliau treftadaeth yng Nghymru felly byddem yn annog ceisiadau gan y rheini sy’n siarad neu’n dysgu’r iaith, a’r rheini sy’n dod o Gymru a/neu sydd wedi’u hyfforddi yng Nghymru ac sy’n chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau yn y sector treftadaeth yng Nghymru.

I gael gwybod mwy, edrychwch ar ein gwefan yn https://nlhfproject.festrail.co.uk/cy/gweler-swyddi-agroed-ein-prosiect/

Mae cyflwyniad fideo da i’r prosiect ar gael yma.

Gallwn gynnig:

  • Cyflog o £19,094 i’r rhai dan 23 neu £19,760 i’r rhai 23 oed a hŷn (cyflog byw cenedlaethol)
  • O leiaf 28 diwrnod o wyliau â thâl ar sail pro rata, gan gynnwys yr holl wyliau banc a gwyliau cyhoeddus
  • Tâl salwch uwch y cwmni
  • Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri ac ar reilffyrdd cenedlaethol yn unol â rheolau Teithio Staff y Rheilffyrdd sydd ar waith adeg y gyflogaeth
  • Cynllun Hyfforddi unigol sy’n cael ei adolygu’n rheolaidd
  • Mentor (ar wahân i’ch rheolwr llinell) i’ch helpu i wneud y gorau o’ch swydd dan hyfforddiant

Y cam cyntaf yw cofrestru eich diddordeb mewn dod i’r Diwrnod Agored neu, os na allwch ddod i’r diwrnod hwnnw, rhowch wybod i ni y bydd gennych ddiddordeb mewn gwneud cais.  Cynhelir y Diwrnod Agored rhwng 9am a 4pm a bydd yn cynnwys amrywiaeth eang o drafodaethau anffurfiol, ymweliadau â Gorsaf yr Harbwr a gorsaf arall ar y trên a thaith o amgylch Boston Lodge. Darperir cinio a lluniaeth. 

Bydd y ffurflen gais ar gael ar ôl y Diwrnod Agored gyda dyddiad cau disgwyliedig ddiwedd mis Mai a chyfle am ymweliad arall a chyfweliad ddiwedd mis Mehefin.