Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Dyddiad cychwyn: Buan 2022

Cyflog: Isafswm cyflog o £31,000 y flwyddyn yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad

Mae Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri yn ymgymryd â phrosiect mawr a ariennir gan y loteri genedlaethol a fydd yn darparu dehongliad ar draws y rheilffordd; yn datblygu sgiliau; ac yn gwarchod adeiladau hanesyddol yn Boston Lodge. Mae hwn yn gyfnod cyffrous gyda’r cyhoeddiad diweddar am Safle Treftadaeth y Byd; mae gan y prosiect gysylltiadau agos â’r Safle ac mae’n rhannu’r un uchelgais i gael effaith gadarnhaol yn yr ardal.

Swydd allweddol i’r prosiect yw’r Goruchwylydd Gwirfoddolwyr Peirianneg a fydd yn cynnig darpariaeth ac yn hwyluso gweithgorau er mwyn cyflawni prosiectau peirianneg treftadaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Ngwaith Boston Lodge, yn ogystal â rheoli a hwyluso’r gwaith o drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth i, a rhwng, gwirfoddolwyr sydd wedi’u recriwtio i’r timau sy’n gweithio ar y prosiectau hyn.

Contract llawn amser ydy hwn am 3 blynedd, a fydd yn dechrau’n fuan yn 2022, yn Boston Lodge, Minffordd, Penrhyndeudraeth.   Bydd angen gweithio ar benwythnosau ar gyfer y swydd hon. Rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i fod yn hyblyg o ran oriau / diwrnodau gwaith er mwyn hwyluso’r gweithgorau a arweinir gan wirfoddolwyr.

Mae cwmpas y swydd wedi’i hymestyn ers iddi gael ei hysbysebu gyntaf i gynnwys cyfrifoldebau rheoli llinell a briff ar gyfer y sefydliad cyfan ar gyfer recriwtio a datblygu gwirfoddolwyr ac fe’i hystyrir yn swydd ar lefel uwch reolwyr.

Sgiliau craidd:

  • Sgiliau peirianneg sy’n berthnasol i reilffordd treftadaeth a gefnogir gan gymhwyster perthnasol
  • Sgiliau arwain tîm a phrofiad sy’n dangos y gallu i hwyluso nifer o brosiectau yn effeithiol.
  • Profiad o hyfforddi a mentora
  • Gallu amlwg i ganolbwyntio ar bobl ac yn meddu ar sgiliau rheoli cysylltiadau rhagorol gan ddangos y gallu i weithio gyda gwirfoddolwyr a staff ar bob lefel.
  • Gallu cynllunio nifer o ffrydiau gwaith
  • Sgiliau gweinyddol da i gefnogi’r gwaith o ysgrifennu adroddiadau manwl am weithgareddau a thimau gwirfoddoli; gan gynnwys y gallu i gefnogi’r gwaith o adrodd ar y prosiect i Gronfa Dreftadaeth y Loteri
  • Profiad amlwg o gyfathrebu’n effeithiol
  • Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn fantais glir yn ogystal â gwybodaeth am y rheilffyrdd, a’r ardal leol

Gallwn gynnig:

  • Cyflog o £26,500 y flwyddyn
  • O leiaf 28 diwrnod o wyliau â thâl, gan gynnwys pob gŵyl banc a gŵyl gyhoeddus. Pro rata ar gyfer swyddi rhan-amser.
  • Cofrestru ar gyfer cynllun pensiwn y cwmni ar ôl y cyfnod cymhwyso
  • Tâl salwch uwch y cwmni
  • Manteision teithio ar Reilffordd Ffestiniog ac Eryri ac ar reilffyrdd cenedlaethol yn unol â rheolau Teithio Staff y Rheilffyrdd sydd ar waith adeg cyflogaeth.

Dylai pob cais ddilyn y canllawiau yn yr Wybodaeth Ymgeisio a chynnwys Ffurflen Gais wedi’i llenwi ynghyd â Ffurflen Monitro Recriwtio ar gyfer Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, a gall hefyd gynnwys CV, a dylid anfon pob un mewn neges e-bost i nlhfapplications@ffwhr.com.

Dogfennau

Activity Plan
Engineering Volunteer Supervisor – Application Information Pack
Project Application Form
Equality & Diversity Form

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Canol dydd 7fed Chwefror, Cyfweliadau 10 Chwefror.