Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

AfonwchEich hoff Straeon RhFf A RhE!

Rydym yn awyddus i glywed eich hoff straeon Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Eryri!

Gyda phrosiect Dehongliad Rheilffordd a Boston Lodge – CTLG (Cronfa Treftadaeth Loteri Genedlaethol) bellach wedi dechrau, rydym yn chwilio am gasgliad o straeon yr ydych yn mwynhau eu hadrodd i ymwelwyr.

Gallai’r straeon hyn fod am drenau Disgyrchiant, locomotifau Garratt, y ‘Deviation’ neu unrhyw storiau diddorol eraill!

Ar ôl eu casglu, bydd y tîm Dehongli yn creu rhestr ‘Deg Uchaf’ ar gyfer Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Eryri, a fydd yn dod yn adnodd gwerthfawr yn y dyfodol ar gyfer y gymuned reilffordd gyfan.

Rydym yn hapus i straeon gael eu hanfon drosodd yn Gymraeg neu Saesneg, drwy e-bost at interpretation@ffwhr.com

Y dyddiad cau ar gyfer anfon straeon drosodd yw’r 8fed o Ionawr, felly mae digon o amser i feddwl dros y Nadolig.

Edrychwn ymlaen at glywed eich straeon!