Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Gweithwyr yn dechrau ar y gwaith yn Boston Lodge!

Mae’r ddaear yn ysgwyd wrth i offer trwm y contractwyr gyrraedd Boston Lodge! – I gyd-fynd â sŵn cyfarwydd dyddiol y peiriannau, bellach mae atsain peiriannau arbenigol wedi cyrraedd y safle wrth i’r gwaith ddechrau ar y prosiect i adfer ac adnewyddu adeiladau hanesyddol, yn ogystal ag adeiladu rhai newydd.

Bydd y prosiect hwn, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri a Chymdeithas Rheilffordd Ffestiniog, yn rhoi hwb i gynlluniau i ddenu mwy o ymwelwyr draw, ac yn darparu cyfleoedd gwaith, hyfforddiant a gwirfoddoli i gymuned Porthmadog a’r ardal ehangach. Bydd hefyd yn ein galluogi i adfer a chadw adeiladau yn Boston Lodge, sydd wedi’i gynnwys yng nghofnodion y Guinness Book of Records fel y “gweithdy rheilffyrdd hynaf i weithredu’n barhaus”.

Mae’r rheilffordd yn hynod ddiolchgar i’w noddwyr sydd, yn y cyfnod economaidd heriol hwn, i gyd wedi cynyddu eu grantiau’n sylweddol i’n galluogi i ymdopi â lefelau chwyddiant llawer uwch na’r disgwyl.

Dywedodd Rheolwr y Prosiect, Edwina Bell:

“Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, pan fo prisiau gwaith adeiladu wedi codi hyd yn oed yn gynt na’r chwyddiant safonol, roedd y prosiect mewn perygl. Yn dilyn proses dendro dau gam, rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi mai OBR, sy’n seiliedig ar Ynys Môn, sydd wedi’i ddewis fel y prif gontractwr i wneud y gwaith. Fodd bynnag, roedd y pris tendro yn parhau i fod ymhell y tu hwnt i’r gyllideb bresennol. Mae’r cyllid ychwanegol a gawsom gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’n cymdeithasau cefnogi yn ein galluogi i gwblhau gwaith y prosiect yn ei gyfanrwydd.”

Mae OBR wedi gallu dechrau’r gwaith ar y safle a byddant yn parhau i weithio dros y gaeaf pan fydd llai o drenau’n rhedeg. Y gwaith tir yn Boston Lodge a gwaith adeiladu sied fechan i gynnal a chadw trenau sy’n cael sylw’r gweithwyr ar hyn o bryd.

Meddai’r Rheolwr Cyffredinol, Paul Lewin:

“Rydym yn hynod ddiolchgar am y cyllid ychwanegol a gawsom gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’n cymdeithasau cefnogi, gan iddo sicrhau ein bod ni’n gallu cwblhau gwaith y prosiect yn ei gyfanrwydd. Wrth i ni wynebu anawsterau’r hinsawdd economaidd bresennol, rydyn ni’n benderfynol o weld y prosiect pwysig hwn yn cael ei gwblhau.”