Swyddog Dehongli
Start Date: Early 2022
Salary: £21,200 (pro rata of £26,500 per annum)
Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn chwilio am Swyddog Dehongli profiadol i ymuno â’n tîm prosiect cleientiaid i weithio’n agos gyda’r dylunwyr dehongli (Creative Core), ac felly i gefnogi’r elfen ddehongli mewn prosiect mawr sy’n cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol. Mae tair prif elfen i’r prosiect: dehongliadau ar draws y rheilffordd, datblygu sgiliau, a diogelu adeiladau. Mae hwn yn gyfnod cyffrous gyda’r cyhoeddiad diweddar am Safle Treftadaeth y Byd; mae gan y prosiect gysylltiadau agos â’r Safle ac mae’n rhannu’r un uchelgais i gael effaith gadarnhaol yn yr ardal.
Bydd y Swyddog Dehongli yn gweithio’n agos gyda’r Ymgynghorydd Dehongli (Creative Core) i gyflwyno cynllun o weithgareddau dehongli ac ymgysylltu newydd o ansawdd uchel yng Ngweithdai Boston Lodge, Porthmadog, ac ar draws Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri. Bydd y Swyddog hefyd yn gyfrifol am ddatblygu rhaglen newydd o deithiau tywys yng Ngweithdai Boston Lodge, ac am reoli Hyfforddai Dehongli.
Core skills:
- Llawer o brofiad o Ddehongli, a gwybodaeth eang am hynny
- Datblygu dehongliadau, gan gynnwys ymchwil archifo
- Cyd-greu gyda chynulleidfaoedd (gan gynnwys y gymuned leol)
- Tîm cydweithredol, gan gynnwys gweithio gydag ymgynghorwyr allanol
- Sgiliau Rheoli Prosiect Dehongli
- Gweithio gyda thimau o wirfoddolwyr i ddatblygu cynnwys
Gallwn gynnig:
- Cyflog o £21,200 (£26,500 pro rata) y flwyddyn
- O leiaf 28 diwrnod o wyliau â thâl ar sail pro rata, gan gynnwys yr holl wyliau banc a gwyliau cyhoeddus
- Cofrestru ar gyfer cynllun pensiwn y cwmni ar ôl y cyfnod cymhwyso
- Tâl salwch uwch y cwmni
- Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri ac ar reilffyrdd cenedlaethol, yn unol â rheolau Teithio Staff y Rheilffyrdd sydd ar waith adeg cyflogaeth.
Dylai pob cais ddilyn y canllawiau yn yr Wybodaeth Ymgeisio a chynnwys Ffurflen Gais wedi’i llenwi ynghyd â Ffurflen Monitro Recriwtio ar gyfer Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, a gall hefyd gynnwys CV, a dylid anfon pob un mewn neges e-bost i nlhfapplications@ffwhr.com.
Dogfennau:
Application Information Pack
Activity Plan
Interpretation Plan
Project Application Form
Equality & Diversity Form
Closing Date for applications: Hanner dydd a 10 Ionawr