Diweddariad Prosiect – Rhagfyr 2021
Roedd y newyddion ein bod wedi sicrhau’r grant ar gyfer y prosiect yn wych ac yn rhydhad i bawb, fel oedd gweld yr haul yn gwenu ar fore y cyhoeddiad cyhoeddus. Ond beth sydd am ddigwydd unwaith mae’r cyffro cychwynnol wedi tawelu?
Nid yw’n syndod, unwaith y bydd y grant wedi’i ddyfarnu, y bod rhaid i ni gynhyrchu set arall o wybodaeth wedi’i ddiweddaru er mwyn cael “Caniatâd i Ddechrau”. Mae hyn yn cynnwys diweddariadau ar lif arian, cyllid, rhaglen, cynlluniau caffael a recriwtio a Chynllun Cyflawni Prosiect heb sôn am drefnu’r tâl cyfreithiol dros yr eiddo y mae ‘NLHF’ ei angen. Cawsom ganiatâd ffurfiol i ddechrau ar 9 Tachwedd.
Mae’r Bwrdd Prosiect wedi’i sefydlu a byddant yn cyfarfod yn fisol o fis Ionawr ymlaen. Aelodau’r Bwrdd Prosiect yw: Paul Lewin (Cadeirydd), John Prideaux, Edwina Bell, Iain Wilkinson, Stephen Murfitt, Graham Cole, Alex Spring, Stephen Grieg a Kaz Spring. Bydd cyfarfodydd eraill sy’n adrodd i’r Bwrdd Prosiect yn cwmpasu’r Cynllun Gweithgaredd, Dehongli, Gwaith Cyfalaf a’r Sied Loco Fach.
Bydd Dr Edwina Bell yn parhau fel Rheolwr Prosiect Treftadaeth i oruchwylio’r prosiect cyfan ac i droelli platiau, annog pawb i weithio gyda’i gilydd a gwylio’r arian. Bydd y tîm dylunio proffesiynol a helpodd ni drwy’r cam datblygu yn parhau drwy’r camau cyflawni ac maent bellach yn gweithio’n galed ar RIBA 4 (Dylunio technegol) sy’n ein paratoi i fynd allan i dendr. Mae’r tîm Loco Shed Bach wedi penodi peiriannydd strwythurol lleol i gwblhau eu dyluniadau RIBA4.
Er mwyn symleiddio’r prif gontract rydym wedi dechrau rhywfaint o waith rhagarweiniol dros gyfnod y gaeaf i uwchraddio’r cyflenwad dŵr, tynnu rhywfaint o’r asbestos hawdd ei symud o adeiladau prosiect a chomisiynu ‘Scottish Power’ i gladdu’r prif gyflenwad pŵer 11kv drwy’r maes parcio (nid yn y prosiect) ac yna trwy’r Iard Uchaf ac i lawr y cefn i’r is-orsaf lle mae’r cebl cyfredol yn llawer rhy agos at yr arwyneb.
Mae cau’r Cob ar gyfer gwaith i’r gwesty newydd ger Gorsaf yr Harbwr wedi bod yn ddefnyddiol gan fod y gwaith i gyflenwad dŵr Boston Lodge wedi’i wneud ar yr un adeg yn hytrach na gorfod ei ail gau.
Tasg gynnar allweddol fydd cytuno ar gaffael ar gyfer y prif gontract o’r cyfnod cyn-gymhwyso i’r tendr terfynol – mae hwn yn ymarfer hanfodol a bydd ymgynghoriad gyda’r tîm dylunio a chynghorwyr yn y gymuned rheilffordd yn cychwyn yn fuan.
Mae recriwtio ar gyfer y Swyddog Lleoliadau Gwaith, Goruchwylydd Gwirfoddolwyr Peirianneg a Swyddog Dehongli ar y gweill a gobeithiwn gael pobl yn y swyddi hyn ym mis Chwefror / Mawrth 2022 gyda’r tair swydd dan hyfforddiant yn dilyn yn fuan ar ôl. Bydd ymgynghori a gwaith pellach ar y Cynllun Gweithgaredd yn cychwyn pan fydd y staff hyn wedi cychwyn.
Mae dyluniad dehongli hefyd yn cael ei gwblhau ac unwaith y bydd y Swyddog Dehongli wedi cyhchwyn, bydd cyfleoedd gwirfoddoli i helpu gydag ymchwil a datblygu dehongli ar y gweill.
Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i’r Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth a’r holl bobl sy’n prynu tocynnau loteri.
Rydym ni wedi cymryd ein camau cyntaf!