Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Rheilfyrdd Ffestiniog ac Eryri yn llwyddianus yn eu cais am grant £3.1 miliwn o’r Gronfa Treftadaeth Loteri Genedlaethol

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri (RhFfE) wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am grant o £3.1 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (CTLG).

Mae hwn yn achlysur pwysig i’n rheilffordd ac mae’n hanterth blynyddoedd o waith caled gan ein staff a’n gwirfoddolwyr, i ddatblygu’r cais rhagorol hwn.

Bydd y buddsoddiad o £3,144,000 yn galluogi gwelliannau sylweddol i’n gwasanaethau a’n cyfleusterau, tra’n denu fwy o ymwelwyr a fydd yn derbyn ‘profiad twristiaeth o ansawdd uchel’.

Bydd y prosiect hwn hefyd yn darparu cyfleoedd hyfforddi, cyflogaeth a gwirfoddoli i gymuned Porthmadog.

Bydd Gweithdai Boston Lodge ymhlith y cyfleusterau ar draws y rheilffordd a fydd yn destun gwaith adfer a chadwraeth sylweddol o ganlyniad i’r cyllid hwn, ynghyd â rhaglen helaeth ar gyfer dehongliad.

Bydd cefnogwyr yn darparu £900,000 ychwanegol o gyllid cyfatebol ar gyfer y prosiect tair blynedd a hanner hwn.

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol RhFfE, Paul Lewin;

“Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan yn llwyddiant y cais hwn, mae wedi bod yn ymdrech tîm enfawr ac yn un y gallwn ni i gyd ymfalchio ynddo.”

Rydym nawr yn edrych ymlaen at wneud ein gweledigaethau’n wirionedd, diolch i’r Gronfa Treftadaeth Loteri Genedlaethol.

Linc i ddatganiad i’r wasg llawn – https://www.festrail.co.uk/wp-content/uploads/2021/10/FINAL-Boston-Lodge-3-million-08.10.2021AW_CYMRAEG.pdf