Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Teithiau teulu am ddim yn Boston Lodge

Y mis hwn, byddwn yn cynnal x2 Daith Teuluol am ddim o amgylch ein gweithdai Boston Lodge, lle gallwch ddysgu am hanes cyfoethog a chyffrous y safle hanesyddol hwn, lle mae locomotifau a cherbydau wedi’u hadeiladu a’u cynnal a’u cadw ers 200 mlynedd!

Bydd teithiau yn cael eu cynnal am 11:00 & 14:15 ar Ddydd Sadwrn, 14eg o Hydref a Dydd Sadwrn, 28ain o Hydref a byddant yn cynnwys taith trên fer i ac o’r gweithdai, o Orsaf Harbwr Porthmadog.

Sylwch: bydd y teithiau hyn ar gyfer teuluoedd gyda phlant 10 oed neu hŷn, a rhaid cael 1 oedolyn ar gyfer pob 2 blentyn.

I archebu eich lle, anfonwch e-bost I interpretation@ffwhr.com gyda y manylion canlynol:

  • Diwrnod ac amser y taith rydych eisiau mynychu
  • Eich enw
  • Nifer o oedolion
  • Nifer y plant dros 10 oed
  • Rhif Cyswllt

*Bydd y teithiau hyn i helpu tîm Prosiect CTLG Dehongliad Rheilffordd a Boston Lodge i ddatblygu’r teithiau cyhoeddus newydd, gan ddechrau yn 2024. Gofynnir i ymwelwyr werthuso’r teithiau ar y diwedd.