Swyddog Lleoliadau Gwaith
Dyddiad cychwyn: ‘ASAP’
Cyflog: £26,500 y blwyddyn yn ogystal a buddion
Mae Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri yn ymgymryd â phrosiect mawr a ariennir gan y loteri genedlaethol a fydd yn darparu dehongliad ar draws y rheilffordd; yn datblygu sgiliau; ac yn gwarchod adeiladau hanesyddol yn Boston Lodge. Mae hwn yn gyfnod cyffrous gyda’r cyhoeddiad diweddar am Safle Treftadaeth y Byd; mae gan y prosiect gysylltiadau agos â’r Safle ac mae’n rhannu’r un uchelgais i gael effaith gadarnhaol yn yr ardal.rnhaol yn yr ardal.
Penodiad allweddol i’r prosiect yw’r Swyddog Lleoliadau Gwaith a fydd yn helpu i gyflwyno elfen sgiliau’r prosiect; mae’r rôl yn cynnwys cefnogi tri hyfforddai, trefnu lleoliadau gwaith o fewn y sefydliad ynghyd â datblygu a chynnal cynlluniau hyfforddiant. Bydd y Swyddog hefyd yn ymgynghori, yn estyn allan at wirfoddolwyr, ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer pob gwirfoddolwr newydd.
Mae’r contract yn un rhan-amser (0.6 Cyfwerth ag Amser Llawn) ac i gychwyn yn syth tan Fawrth 30ain 2025. Bydd yr oriau yn hyblyg a’r posibilrwydd o weithio gartref rhywfaint o’r amser. Mae’n bosib gall y swydd hon fod yn llawn amser gyda rhai dyletswyddau eraill yn y Rheilffordd i’r person cywir. Disgwylir y bydd deiliad y swydd wedi’i leoli ym Mhorthmadog gyda rhywfaint o waith yn Boston Lodge.
Sgiliau craidd:
- Profiad o gydlynu hyfforddiant a mentora
- Profiad o recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr
- profiad o waith allgymorth a phartneriaeth rhagweithol (e.e. gydag ysgolion neu gyrff gwirfoddiol)
- Sgiliau gweinyddol da i gefnogi’r gwaith o gofnodi gweithgareddau a thimau o wirfoddolwyr yn effeithiol, a chefnogi’r gwaith o adrodd a y prosiect i Gronfa Dreftadaeth y Loteri
- Mae’r gallu i sgwrsio a ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
- Byddai gwybodaeth am y rheilfyrdd a’r gymuned leol yn fanteisiol
Gallwn gynnig:
- Cyflog o £26,500 y flwyddyn pro rata
- O leiaf 28 diwrnod o wyliau â thâl, gan gynnwys pob gŵyl banc a gŵyl gyhoeddus. Pro rata ar gyfer swyddi rhan-amser.
- Cofrestru ar gyfer cynllun pensiwn y cwmni ar ôl y cyfnod cymhwyso
- Tâl salwch uwch y cwmni
- Manteision teithio ar Reilffordd Ffestiniog ac Eryri ac ar reilffyrdd cenedlaethol yn unol â rheolau Teithio Staff y Rheilffyrdd sydd ar waith adeg cyflogaeth.
Dylai pob cais ddilyn y canllawiau yn yr Wybodaeth Ymgeisio a chynnwys Ffurflen Gais wedi’i llenwi ynghyd â Ffurflen Monitro Recriwtio ar gyfer Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, a gall hefyd gynnwys CV, a dylid anfon pob un mewn neges e-bost i nlhfapplications@ffwhr.com.
Dogfennau
Activity Plan
Work Placement Officer – Application Information Pack
Project Application Form
Equality & Diversity Form
Dyddiad cau: Hanner dydd ar 19fed o Awst