Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Jim Embrey

Swyddog Dehogli

Y Swyddog Dehongli yw Jim Embrey, sydd wedi gweithio ym maes dehongli a thwristiaeth trwy gydol ei yrfa, a ddechreuodd yn Rockies Canada, lle bu’n arweinydd ar deithiau bws. Mae ganddo brofiad mewn datblygu twristiaeth, datblygu teithiau, prosiectau Loteri, ac ysgrifennu technegol a hamdden. Mae wedi byw yng Ngwynedd ers 1998 ac wedi bod yn ymwneud â menter gymdeithasol yn ei bentref genedigol ers sawl blwyddyn.

Mae Jim wedi’i leoli yng Ngorsaf yr Harbwr a bydd yn arwain ar rannau Dehongli’r prosiect, o weithio gyda gwirfoddolwyr i gasglu straeon pobl ac ymgymryd ag ymchwil newydd yn yr archifau, i roi dehongliad ffisegol yn ei le yn y gorsafoedd a’r arosfannau, gan ddiweddu gyda cychwyn y teithiau tywys o Boston Lodge yn 2024. Bydd hefyd yn rheolwr llinell yr Hyfforddai Dehongli, Millie Rathbone, sydd eisioes wedi cychwyn.