Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Iain Wilkinson

Arweinydd Gwirfoddolwyr Peirianneg

Yr Arweinydd Gwirfoddolwyr Peirianneg yw Iain Wilkinson, unigolyn sy’n gyfarwydd i bawb ar draws y rheilffordd gan ei fod wedi bod o gwmpas ers bron i dri degawd, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Gwirfoddoli (rôl y mae bellach wedi rhoi’r gorau iddi). Bydd ymglymiad Iain yn cychwyn yn raddol wrth iddo dynnu’n ôl o’i rolau presennol dros y misoedd nesaf. Bydd Iain wedi’i leoli yn swyddfa’r prosiect yn Boston Lodge, o dan arweiniad Edwina Bell fel Rheolwr y Prosiect Treftadaeth.

Daw Iain â’r cyfuniad o sgiliau peirianneg a phrofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr a’u datblygu a fydd o fudd i reolaeth gwirfoddolwyr ehangach ar draws y sefydliad. Meddai Iain ‘Mae’r rheilffordd wedi chwarae rôl pwysig am rhan sylweddol o fy mywyd! Mae’r CTLG yn dod â chymaint o fy nwydau at ei gilydd: pobl frwdfrydig, gwirfoddolwyr newydd, treftadaeth a hyfforddiant. Mae hwn yn gyfle enfawr i’r mudiad ddatblygu a thyfu ei sylfaen wirfoddoli hollbwysig. Roeddwn i’n meddwl, felly, mai dyma’r amser delfrydol i wneud cais am rôl ac i allu neilltuo fwy o amser i’r gwaith anhygoel hwn.’

Meddai Iain ‘Mae’r rheilffordd wedi chwarae rôl pwysig am rhan sylweddol o fy mywyd! Mae’r CTLG yn dod â chymaint o fy nwydau at ei gilydd: pobl frwdfrydig, gwirfoddolwyr newydd, treftadaeth a hyfforddiant. Mae hwn yn gyfle enfawr i’r mudiad ddatblygu a thyfu ei sylfaen wirfoddoli hollbwysig. Roeddwn i’n meddwl, felly, mai dyma’r amser delfrydol i wneud cais am rôl ac i allu neilltuo fwy o amser i’r gwaith anhygoel hwn.’