Hyfforddeion wedi Ymuno
Rhan hanfodol o’r prosiect yw helpu’r sector treftadaeth yng Nghymru drwy recriwtio graddedigion diweddar i helpu i gyflawni’r prosiect a chael profiad swydd gyntaf hanfodol. Y ddau ‘Hyfforddai’ cyntaf yw Millie Rathbone, o Gasnewydd, De Cymru, sydd wedi ymuno â’r Tîm Dehongli, a James Kindberg, o Glasgow, a fydd yn gweithio gydag Edwina Bell i reoli’r prosiect yn gyffredinol. Mae’r ddau wedi adleoli yma i fod yn rhan o’r prosiect ac rydym yn gwybod y byddwch yn eu croesawu pan fyddwch yn cwrdd â nhw.
Dehongliad
Mae rhan Dehongli’r Prosiect yn mynd yn dda. Mae’r tîm o wirfoddolwyr bron â chwblhau’r 41 o nodiadau ymchwil a fydd yn llywio’r gwaith o ysgrifennu’r straeon a fydd yn cael eu hadrodd ar y paneli dehongli a fydd yn cael eu gosod yn y prif orsafoedd ac arosfannau rhwng Blaenau Ffestiniog a Chaernarfon ar gyfer tymor 2024. Mae hi wedi bod yn gyfle hynod ddiddorol i’r ymchwilwyr ymchwilio ddarnau o hanes y rheilffordd y maen nhw wedi bod eisiau darganfod mwy amdano erioed.
Mae straeon yn ymwneud â Rh. Eryri wedi cynnwys cyfraniadau gan Dave Russell ar yr ymdrechion niferus yn y 19eg a’r 20fed ganrif i gyrraedd Beddgelert o’r de, ac mae John Jones wedi ymchwilio ‘y bont i nunlle’, arteffact hanesyddol o Rheilffordd Portmadog, Beddgelert a De’r Wyddfa. Diolch hefyd i Dafydd Thomas am ei hanesion lu am y ‘Black Hand Gang’.
Gwynebau newydd
Mae recriwtio hefyd yn symud ymlaen ar gyfer dwy swydd sy’n bwysig iawn i’r prosiect a’r rheilffordd yn ei gyfanrwydd.
Bydd y Swyddog Lleoliadau Gwaith yn gyfrifol am allgymorth i ddod o hyd i ragor o wirfoddolwyr a’r rhai a allai elwa o gyfleoedd lleoli ar y rheilffordd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus newydd yn adeiladu ar waith Krys Madoc-Jones a fu’n gweithio yn y rôl hon cyn gadael y rheilffordd dros yr haf oherwydd rhesymau personol.
Bydd y Goruchwyliwr Hyfforddiant a Digwyddiadau yn sicrhau ein bod yn trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau i wirfoddolwyr, gyda ffocws arbennig ar dasgau peirianneg yn Boston Lodge a Dinas. Byddant yn asesu cymwyseddau ac yn creu rhaglenni gwaith – gan gynnwys cyfleoedd dysgu – i wneud y defnydd gorau o ymdrechion gwirfoddolwyr.
Gobeithiwn lenwi’r ddwy swydd yn fuan iawn.
Cynnydd ‘Tender’: Sied Loco Fach a Phrif Gontract Boston Lodge
Mae’r tendrau ar gyfer y gwaith adeiladu cyfalaf newydd wedi dod i mewn ac wedi’u gwerthuso gan y Tîm Prosiect. Fel y disgwyliwyd yn yr hinsawdd bresennol, maent wedi cynyddu’n sylweddol i gymharu a’r hyn a gyllidebwyd ar eu gyfer ac mae trafodaethau ar y gweill ynghylch y ffordd orau o reoli hyn… goneithiwn rannu diweddariad pellach yn fuan…