Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Cais rownd dau wedi ei gyflwyno

Cyflwynwyd y cais rownd dau i’r Cronfa Treftadaeth Loteri Genedlaethol (CTLG) i’w ystyried ar Ddydd Iau, Mai 27ain.

Mae’r ddogfennaeth a gyflwynwyd, sy’n cynnwys un ar hugain o ddogfennau a thair ffeil fawr, yn gasgliad o fisoedd o waith gan ein tîm. Roedd hyn yn cynnwys tasgau pensaerniol, peirianneg ac arolygu, yn ogystal â llawer iawn o waith weinyddol.

Nawr mae’n rhaid i ni aros tan ddechrau mis Medi cyn i ni ddarganfod os yw’r cais wedi bod yn llwyddiannus, ond yn y cyfamser mae’n bosib iawn y bydd angen gwneud rhagor o waith.

Byddwn yn eich diweddaru ar ddatblygiadau.

Gellir weld fideo byr, a baratowyd ar gyfer y CTLG fel rhan o’r cais, yma: