Adolygiad Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Rhan allweddol o gam datblygu’r prosiect yw’r adolygiad canol tymor lle mae’n rhaid i dîm y prosiect gyflwyno cynnydd ac ystod o ddogfennau drafft i’w gymeradwyo.
Mae’n hanfodol i gyflawni’r adolygiad canol tymor hwn er mwyn parhau i gyflwyniad Rownd 2 ac rydym yn falch o gadarnhau ein bod wedi ei gyflawni ac felly yn symud ymlaen at waith dylunio a datblygu manylach.
Mae Paul Lewin wedi cynhyrchu fideo sy’n cyflwyno manylion defnyddiol am wahanol agweddau’r prosiect.