Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Edwina Bell

Rheolwr y Prosiect Treftadaeth

Y Rheolwr Prosiect cyffredinol yw Edwina Bell sydd â chyfoeth o brofiad ym maes rheoli prosiectau, datblygu strategol, cyllid, adnoddau dynol, rheoli ystadau, menter a thechnoleg gwybodaeth, heb sôn am helpu ‘evacuate’ ynysoedd bach.

Ar hyn o bryd mae Edwina wedi’i leoli yn Swyddfeydd y Rheolwr Cyffredinol yng Ngorsaf yr Harbwr, er hyn mae Edwina yn treulio amser yn Boston Lodge hefyd ac yn arwain tîm y prosiect o benseiri ymgynghorol, peirianwyr a chyfieithwyr ar y pryd ac ati, sy’n gweithio ar ein cais NLHF ail rownd a gwaith rhagarweiniol sy’n gysylltiedig â phosiect dehongli Boston Lodge.

Bydd arbenigedd Edwina mewn ysgrifennu cynigion NLHF rownd 2 llwyddiannus, arwain prosiectau adfer a dehongli treftadaeth ynghyd â datblygu timau effeithiol o bobl yn ddefnyddiol iawn wrth i ni symud ymlaen o fewn cam datblygu’r fenter gyffrous hon a ariennir gan grant sy’n parhau er gwaethaf Covid (a Brexit).

Mae Edwina wedi rheoli ystod eang o brosiectau a ariennir gan Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol gan gynnwys ‘Llanthony Secunda Priory’ – https://llanthonysecunda.org/, ‘Hidden Treasures Project’, Eglwys Gadeiriol Rochester, ac mae hi newydd orffen cyfnod chwech mlynedd yn cadeirio y ‘Gloucester Heritage Forum’.