Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

“Mae rhaid ymdrechu a gweithredu nawr er mwyn sicrhau ein bod yn cadw ein treftadaeth, diwylliant a diwydiant ar gyfer y dyfodol”

Paul Lewin, Rheolwr Cyffredinol, Rheilffyrdd Ffestiniog & Eryri

Drwy’r brosiect uchelgeisiol a chyffrous hwn byddwn yn adrodd stori’r rheilffordd ac felly’n helpu miloedd o ymwelwyr i ddeallt ysbryd arloesol yr ardal a’i heffaith fyd-eang ac egluro sut mae’r diwydiant wedi llunio’r tirwedd a’r gymuned dros 200 mlynedd.

Bydd y prosiect yn ein galluogi i gynnwys mwy o bobl yn y rheilffordd a helpu’r bobl hynny i ddatblygu eu sgiliau. Bydd y prosiect hefyd yn achub adeiladau hanesyddol yn Boston Lodge gan ddod â nhw yn ôl i ddefnydd yn ogystal â chreu rhai adeiladau newydd.

Bydd y gwaith yn Boston Lodge yn ein caniatau i roi cyfle i bobl weld y tu ôl i’r llenni, a chymryd rhan os dymunant. Y gobaith yw y bydd hyn yn bywiogi cyfranogiad gwirfoddolwyr ymhellach, yn y gwaith peirianneg rheilffordd hynaf yn y byd sy’n dal i weithredu’n barhaus.

Gweithdai

Mae ein gweithdai yn gyfle delfrydol ar gyfer profiad ymarferol! – Cliciwch yma i ddarllen mwy o wybodaeth.