Gweithdai ‘Rhowch Gynnig Arni’ – Adeiladwch Cerbyd
DEWCH I ADEILADU CERBYD MEWN PENWYTHNOS… ADEILADU ‘KIT’ GO IAWN..!
I gychwyn ein rhaglen o weithdai hyfforddi ‘Rhowch Gynnig Arni’, rydym yn cynnal gweithdy 4 diwrnod ‘Adeiladu Cerbyd’ am ddim, rhwng Dydd Gwener, 12fed – Dydd Llun, 15fed Gorffennaf 2024.
Yn ystod y gweithdy unigryw hwn, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn helpu i lunio fframwaith cerbyd cyfan yn ein Gweithdai Cerbydau Boston Lodge byd-enwog.
Mae ein seiri coed medrus wedi bod yn peiriannu’r holl bren i gydosod y corff cerbyd diweddaraf i’w adeiladu yn Boston Lodge ac mae ffit sych o’r holl gydrannau hyn sydd wedi’u peiriannu’n gywir yn cael ei wirio ar hyn o bryd.
Mae hyn yn golygu y bydd cyfranogwyr yn gweld ffrâm gyflawn ar ddiwrnod cyntaf y gweithdy, yna’n helpu i’w ddadosod yn llawn. Bydd gwaith trefnus ‘ffit gwlyb’ wedyn yn dilyn wrth i’r ffrâm gael ei gludo, ei gydosod, ei glampio a’i wirio sawl gwaith. Ac eithrio unrhyw faterion mawr, dylai diwrnod olaf y gweithdy ddod i ben gyda lluniau grŵp o amgylch corff cerbyd cyflawn.
Bydd Te, Coffi a Diodydd oer yn cael eu darparu ac efallai y bydd ambell gacen yn ymddangos ond bydd angen i gyfranogwyr ddod â’u cinio, hen ddillad, oferôls ac esgidiau diogelwch eu hunain.
Bydd y gweithdy a gynhelir rhwng 09:00 – 16:30 ar y pedwar diwrnod yn gyfyngedig i 5 cyfranogwr a bydd yn llenwi ar sail y cyntaf i’r felin.
Sylwch: Disgwylir i gyfranogwyr gyrraedd Boston Lodge eu hunain (ni fydd unrhyw drenau gwennol ar gael) a bydd angen iddynt fod yn weddol abl yn gorfforol gyda rhai sgiliau ymarferol sylfaenol. Nid oes angen sgiliau saer neu dealltwriaeth trylwyr am adeiladu cerbydau.
Rhaid i gyfranogwyr y gweithdy hwn fod yn 16 oed neu’n hŷn.
Os oes gennych ddiddordeb ond dydych ddim ar gael ar y dyddiadau hyn (neu bob un o’r dyddiadau hyn), mae dal groeso i chi gysylltu oherwydd efallai y byddwn yn dal i allu eich cynnwys ar rhai o’r dyddiadau neu ddyddiadau eraill.
Darperir y gweithdy hwn yn rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cymdeithas Rheilffordd Ffestiniog ac Ymddiriedolaeth RhFfE.
I holi ymhellach neu archebu eich lle, cysylltwch ag Iain Wilkinson: iwilkinson@ffwhr.com
Y gweithdy hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o weithdai ‘Rhowch Gynnig Arni’ felly cadwch olwg am ddyddiadau pellach yn ystod 2024.