Cwestiynau Cyffredin
1). Faint fydd cost y prosiect?
Mae’r cam datblygu yn costio £203,000 ac mae hyn yn cwmpasu’r gwaith dylunio manwl, arolygon amrywiol a datblygu’r cais Rownd 2 i’r Cronfa Treftadaeth Loteri Genedlaethol (CTLG). Mi fydd y cam dosbarthu yn costio £4.37miliwn a rhoddir y dadansoddiad isod:
2) Pryd fyddwn ni’n darganfod a yw hyn yn digwydd?
Canol i ddiwedd Medi 2021.
3) Pa mor hir bydd y prosiect yn para?
Disgwylir i’r cyfnod cyflawni bara tair blynedd felly bydd wedi’i gwblhau yn 2024 ond mae hyn yn dal i gael ei ystyried wrth i ni weithio allan beth y gellir ei wneud a phryd bydd hyn yn digwydd fel rhan o’n gwaith datblygu.
4) Ydi’r brosiect wedi’i ffocysu yn llwyr ar Gweithdai Boston Lodge?
Na, mae’n Brosiect Dehongliad Rheilffordd a Boston Lodge.
Nod y prosiect yw gwella dehongliad ar draws y rheilffyrdd ac mewn gorsafoedd allweddol trwy ddatblygu ein sgiliau hadrodd straeon (ased gwych eisoes), arwyddion newydd mewn gorsafoedd allweddol, datblygu’r wefan a darparu ‘app’ i helpu dynnu sylw at nodweddion allweddol. Rydym eisiau ymwelwyr ddysgu ychydig o wybodaeth ychwanegol ym mhob ‘pwynt cyffwrdd’ a bod yn awyddus i ddod yn ôl i ddarganfod mwy. Os yw’r enwebiad ar gyfer Statws Treftadaeth y Byd y diwydiant Llechi yn llwyddiannus, yna mae’n debyg mai’r rheilffordd fydd y pwynt mynediad i ymwelwyr a dylai ein dehongliad helpu i ddatblygu dealltwriaeth o unigrywiaeth yr ardal a balchder yn ei threftadaeth diwydiannol, nodwedd y mae’r rheilffordd yn chwarae rhan hanfodol.
Mae’r gwaith yng Nghweithdai Boston Lodge yn cynnwys datblygiadau ar sawl adeilad a fydd yn caniatau i’r safle weithredu’n fwy effeithlon ac i ddarparu fwy o wagle ar gyfer prosiectau gwirfoddol. Rhan allweddol o annog ymgysylltiad dyfnach â’r rheilffordd fydd Teithiau Tywys Boston Lodge – rydym yn deallt bod pobl eisiau gweld y tu ôl i’r llenni ac y gall hyn hefyd fod yn ffordd effeithiol o ddenu fwy o bobl i’r Rheilffordd ac i wirfoddoli yn y dyfodol.
Rhan hanfodol i’r uchod bydd Cynllun Gweithgareddau manwl a fydd yn crynhoi sut y byddwn yn datblygu sgiliau trwy ystod eang o hyfforddeiaethau, lleoliadau gwaith, gweithdai sgiliau ynghyd ag ymgymryd â phrosiectau gwirfoddol ym maes dehongli a pheirianneg a datblygu’r teithiau tywys ar gyfer Boston Lodge.
5) Ydi’r prosiect yn cwmpasu mwy nag trenau yn unig?
Ydi, mae hyn yn ymwneud â’r rheilffordd ehangach a chyd-ddibyniaeth â’r ddiwydiant llechi yn ogystal ag annog ein hymwelwyr i fwynhau harddwch naturiol dramatig Eryri. Mae’n ymwneud â datblygu sgiliau peirianneg (digon teg, mae hynny’n ymwneud â threnau!) ac i adrodd straeon (gall gynnwys unrhywbeth o drenau i’r cynhwysion ar gyfer cacennau Cymreig neu manylion am y safle gorau i weld Gweilch).
6) A fydd y prosiect yn adrodd hanes pobl arferol lleol sy’n ymwneud â’r rheilffordd?
Mi fydd y prosiect yn adrodd hanes bobl arferol lleol sy’n ymwneud a’r rheilffordd. Bydd straeon am bobl sy’n cymryd rhan ar bob lefel yn cael ei cwmpasu o fewn y dehongliad. Rydym yn ymwybodol iawn o’r cysylltiadau teuluol lleol dwfn i’r rheilffordd hanesyddol a’r diwydiant llechi a’r amrywiaeth helaeth o wirfoddolwyr ac rydym eisiau adrodd y straeon hyn yn ogystal â straeon am ddatblygu ac adfer y rheilffordd. Mae yna brosiect gwirfoddol penodol i goladu a bydd rhaid cofnodi atgofion gwirfoddolwyr a thrigolion lleol i gyfrannu at y dehongliad.
7) A fydd teithiau addysgol ar gael yn ystod y gwaith adeiladu yn Boston Lodge?
Bydd teithiau addysgol ar gael yn ystod gwaith adeiladu yn Boston Lodge. Bydd y teithiau addysgol yma yn rhoi gyfle gwych, i’r gymuned leol yn arbennig, i weld beth sy’n digwydd yn y safle a gweld sgiliau traddodiadol yn cael eu defnyddio.
8) A fydd gan bob aelod o staff a’r gwirfoddolwyr ran i’w chwarae yn y prosiect hwn?
Er y bydd rhai aelodau staff a gwirfoddolwyr yn chwarae mwy o ran nag eraill, yn ystod y prosiect bydd gan bawb sy’n ymwneud â’r rheilffordd, gan gynnwys aelodau staff, gwirfoddolwyr, aelodau y cymdeithas neu cefnogwyr, ran i’w chwarae wrth ddatblygu a chynnal y prosiect. Mae yna lawer o wahanol agweddau o fewn y prosiect hwn sydd angen amrywiaeth eang o sgiliau ac arbenigedd. Mae’r wefan hon yn brif ganolbwynt i’r prosiect CTLG, a mi fydd yn cynnwys yr holl ddiweddariadau a manylion cyswllt perthnasol ar gyfer y prosiect.
Os rydym yn llwyddiannus, pan symudwn i’r cam cyflawni, bydd y wefan hon yn ffordd allweddol o gyfathrebu â staff a gwirfoddolwyr ac yn tynnu sylw at gyfleoedd i gymryd rhan a allai gynnwys:
• Helpu i gefnogi hyfforddeion i reoli prosiectau, gweithrediadau a dehongli.
• Helpu i gefnogi cynlluniau profiad gwaith.
• Datblygu dehongliad gan gynnwys gwybodaeth ar gyfer teithiau tywys.
• Ymchwilio a digideiddio archifau.
• Cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau peirianneg ac adeiladu.
• Datblygu sgiliau i annog arweinwyr gwirfoddol.
• Datblygu sgiliau adrodd straeon.
• Hyfforddiant i fod yn arweinydd teithiau tywys.
• Cefnogi digwyddiadau a gweithdai.