Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Krystle Madoc-Jones

Swyddog Lleoliadau Gwaith

Mae gan Krystle brofiad eang o weithio yn y gymuned lleol ar ôl treulio blynyddoedd lawer mewn rolau uwch i Seren ac mae hi wedi bod yn ymwneud ag ystod eang o brosiectau sy’n cefnogi profiad gwaith a dychwelyd i’r gwaith.

Dywedodd Krystle ‘Mae’n gyfle cyffrous sydd gennym o’n blaenau yn rhedeg y prosiect hwn. Mae’n gyfle i oedolion a phobl ifanc, pell ac agos, ddod i ddysgu sgiliau newydd a dysgu am hanes un o atyniadau mwyaf hanesyddol Gogledd Cymru.

‘Ni allai amseriad y prosiect fod yn fwy addas, yn dod allan o gyfyngiadau covid, i’r rhai sydd wedi bod yn ynysu neu wedi colli hyder yn eu hunain ac wrth gymdeithasu’n gyffredinol, a fydd yn elwa o wybod bod ganddynt amgylchedd diogel a chroesawgar gyda’r Tîm Rheilffordd Ffestiniog.’