{"id":2798,"date":"2023-09-04T14:54:37","date_gmt":"2023-09-04T13:54:37","guid":{"rendered":"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/?p=2798"},"modified":"2023-09-04T14:55:08","modified_gmt":"2023-09-04T13:55:08","slug":"diweddariad-am-y-prosiect-awst-2023","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/cy\/diweddariad-am-y-prosiect-awst-2023\/","title":{"rendered":"Diweddariad am y prosiect &#8211; Awst 2023"},"content":{"rendered":"\n<p><strong>Gwaith cyfalaf<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n braf dweud ein bod, yn bennaf, mewn lle da ac yn gallu gweld cynnydd go iawn. Mae sylfeini ar gyfer yr holl adeiladau newydd bellach wedi&#8217;u gosod ac mae&#8217;r strwythur ffr\u00e2m bren sylfaenol mewn lle ar gyfer y siop fach newydd wrth ymyl y Ffowndri Bres. Y thema newydd yw sgaffaldau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae sgaffaldiau wedi eu gosod yn rhif 1 a 2 yn Boston Lodge wedi ac mae&#8217;r soffitau asbestos wedi&#8217;u symud yn ddiogel. Mae&#8217;r hen rendr wedi cael ei dynnu ac mae&#8217;r gwaith cerrig yn y broses o gael ei drwsio.&nbsp; Bydd yr adeilad yn cael ei ail-rendro efo rendr calch.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae sgaffaldau hefyd bellach wedi\u2019u gosod o amgylch hen weithdy&#8217;r trydanwr, lleoliad blaenorol y Den a\u2019r Den yn y dyfodol i ehangu&#8217;r adeilad. Mae\u2019r gwaith wedi dechrau i adeiladu&#8217;r waliau a fydd yn ail-greu&#8217;r hen dalcen sy&#8217;n wynebu&#8217;r brif iard.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae sgaffaldau hefyd wedi\u2019u gosod o amgylch yr estyniad i\u2019r adeilad Hyfforddiant ac Ymchwil newydd o\u2019r efail, yn barod ar gyfer gweddill y strwythur newydd. Mae fent sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2&#8217;r rhai yn yr efail yn cael ei hadeiladu yng ngweithdy\u2019r cerbydau a bydd yn cael ei gosod ar do&#8217;r adeilad hwn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae prosiectau treftadaeth bob amser yn dod \u00e2 phethau i\u2019r fei ac er ein bod wedi cael rhai m\u00e2n broblemau, rydym wedi dod ar draws un broblem neilltuol gymhleth. Mae wyneb y graig uwchben adeilad newydd Sied Atgyweirio\u2019r Wagenni yn yr iard uchaf wedi peri pryder i ni; wrth glirio&#8217;r llystyfiant, cafwyd hyd i rai craciau dwfn a llydan iawn. Ar \u00f4l cael cyngor geodechnegol arbenigol, rydym yn mynd ati i dynnu\u2019r rhannau ag \u00f4l tywydd a\u2019r rhannau rhydd i gyrraedd arwyneb mwy sefydlog i adeiladu yn ei erbyn ac mae&#8217;n debygol y bydd angen i ni wneud rhywfaint o waith cynnal i sicrhau ei fod yn gadarn. Mae hyn yn dal i fod yn destun ymchwiliad. Mae&#8217;r gwaith cychwynnol hwn (sy\u2019n cael ei wneud \u00e2 llaw) wedi dangos pa mor fregus yw&#8217;r graig sydd ar y brig &#8211; daeth yn rhydd yn hawdd iawn.<\/p>\n\n\n\n<p>Roeddem eisoes wedi tynnu peth o&#8217;r wal uchaf gan ei bod yn gwyro tuag allan, sy\u2019n hynod beryglus. Er hyn, gwnaethom geisio cadw rhywfaint ohoni i ddechrau. Mae&#8217;r angen i dynnu rhannau o\u2019r graig wedi golygu, yn anffodus, bod y wal gyfan wedi gorfod cael ei dymchwel. Mae wastad yn bryder colli rhywbeth hanesyddol, ond ni ellir cynnal wal sydd wedi ei lleoli ar ben wyneb clogwyn ansefydlog uwchben to llechi newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar nodyn arall, mae&#8217;r waliau a&#8217;r pieri newydd ar gyfer y Sied Atgyweirio Wagenni yn cael eu hadeiladu o gerrig lleol a morter calch. Yn y man byddant yn edrych fel eu bod wedi bod yma ers blynyddoedd lawer. Ailadeiladwyd rhan uchaf y mur lechi cynhaliol (wrth y ramp i&#8217;r Iard Uchaf) i wella sefydlogrwydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Sied y Loco Bach yn dal i wneud cynnydd rhagorol gyda&#8217;r prif gontractwr siediau yn gobeithio gorffen y gwaith ddiwedd mis Gorffennaf. Mae Ian Hartill yn adrodd ar hyn ar wah\u00e2n ond wrth gwrs mae&#8217;n dal i fod yn rhan allweddol o brosiect NLHF.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Teithiau a Gweithdai<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae ystod o deithiau a gweithdai bellach yn cael eu sefydlu i ymgysylltu ymhellach \u00e2 phobl a&#8217;u cynnwys yn ymarferol yn ein gwaith ar y rheilffyrdd. I ddod o hyd i ddyddiadau a mwy o wybodaeth, ewch i <a href=\"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/workshops\/\">https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/workshops\/<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Bu inni gynnal ein gweithdy cyntaf ar sgiliau morter calch yn ddiweddar gan adael i bobl roi cynnig ar adeiladau waliau go iawn o dan hyfforddiant a goruchwyliaeth wyliadwrus Tom Goodey o Gwmni Lime Eryri. Rydym yn ystyried sefydlu gr\u0175p o wirfoddolwyr i&#8217;w hyfforddi dros gyfnod hirach mewn atgyweirio waliau efo morter calch gan fod digon o adeiladau ar yst\u00e2d y rheilffordd y gellid eu hatgyweirio. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost i volunteering@ffwhr.com.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r prosiect yn dal i ddefnyddio gwirfoddolwyr i ymgymryd \u00e2 swyddi na fyddent fel arall yn cael eu gwneud. Mae gwirfoddolwyr Dug Caeredin wedi bod yn brysur yn ddiweddar yn tacluso ymylon Boston Lodge yn ogystal \u00e2 Pharciau a Gerddi.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dehongli<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gan fod y gwaith o ddatblygu&#8217;r arwyddion wedi&#8217;i gwblhau i raddau helaeth (gosodir yr arwyddion yn gynnar yn 2024), mae ochr ddehongli&#8217;r prosiect bellach yn symud ymlaen i ddatblygu teithiau yn Boston Lodge ac rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr. Darperir hyfforddiant llawn dros y gaeaf nesaf a bwriedir i&#8217;r teithiau ddechrau ym mis Ebrill 2024. Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch e-bost at <a href=\"mailto:jembrey@ffwhr.com\">jembrey@ffwhr.com<\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01410-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2787\" srcset=\"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01410-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01410-600x450.jpg 600w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01410-768x576.jpg 768w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01410-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01410-500x375.jpg 500w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01410-800x600.jpg 800w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01410-1280x960.jpg 1280w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01410.jpg 1600w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large custom-topmargin\" style=\"margin-top:10px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01431-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2789\" srcset=\"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01431-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01431-600x450.jpg 600w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01431-768x576.jpg 768w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01431-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01431-500x375.jpg 500w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01431-800x600.jpg 800w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01431-1280x960.jpg 1280w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01431.jpg 1600w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large custom-topmargin\" style=\"margin-top:10px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01451-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2791\" srcset=\"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01451-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01451-600x450.jpg 600w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01451-768x576.jpg 768w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01451-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01451-500x375.jpg 500w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01451-800x600.jpg 800w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01451-1280x960.jpg 1280w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01451.jpg 1600w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full custom-topmargin\" style=\"margin-top:10px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1600\" height=\"2133\" src=\"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01647.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2793\" srcset=\"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01647.jpg 1600w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01647-450x600.jpg 450w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01647-768x1024.jpg 768w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01647-1152x1536.jpg 1152w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01647-1536x2048.jpg 1536w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01647-500x667.jpg 500w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01647-800x1067.jpg 800w, https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/DSC01647-1280x1706.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1600px) 100vw, 1600px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;n braf dweud ein bod, yn bennaf, mewn lle da ac yn gallu gweld cynnydd go iawn&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":2790,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_eb_attr":"","kk_blocks_editor_width":"","_kiokenblocks_attr":"","_kiokenblocks_dimensions":"","pgc_sgb_lightbox_settings":"","cybocfi_hide_featured_image":"yes","footnotes":""},"categories":[208],"tags":[],"class_list":["post-2798","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2798","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2798"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2798\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2799,"href":"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2798\/revisions\/2799"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2790"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2798"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2798"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/nlhfproject.festrail.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2798"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}