Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Mae’r Cronfa Treftadaeth Loteri Genedlaethol (CTLG) yn broses dau gam ar gyfer prosiectau mawr fel yr un hon.

Bydd cymeradwyaeth rownd gyntaf yn golygu bod y Cronfa Treftadaeth Loteri Genedlaethol wedi dyrannu grant cychwynnol i alluogi’r rheilffordd i ddatblygu cais llawn rownd 2. Mae’r cam datblygu hwn yn cynnwys penodi tîm proffesiynol llawn gan gynnwys penseiri, peirianwyr strwythurol, peirianwyr mecanyddol a thrydanol, syrfewyr meintiau, dylunwyr dehongli, cynllunwyr gweithgaredd, ymgynghorwyr gwerthuso … a rheolwr prosiect. Y tîm hwn sydd â’r dasg o ddatblygu’r dyluniadau mewn ymgynghoriad â’r rheilffordd ac am gynhyrchu’r llu o ddogfennau bydd eu hangen ar gyfer cyflwyniad Rownd 2. Nid yw cymeradwyaeth rownd gyntaf yn gwarantu llwyddiant yn yr ail rownd.

Bydd cyflawniad yr ail rownd yn golygu bod y grant llawn yn cael ei ddyfarnu fel y gall y rheilffordd gyflawni’r cynllun uchelgeisiol dros gyfnod o dair i bedair blynedd ar ôl derbyn caniatâd i gychwyn (mwy o waith papur angenrheidiol). Mae’r un tîm proffesiynol fel arfer yn parhau drwodd i’r cyfnod cyflawni.